Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/02/2024 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2 Nododd y Cadeirydd fod yn rhaid i James Evans AS adael y cyfarfod am 11.30.

 

(09.30 - 11.00)

2.

Gwaith craffu cyffredinol ar waith Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Owain Lloyd, Cyfarwyddwr y Gymraeg ac Addysg, Llywodraeth Cymru

Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Addysg Drydyddol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog yn y meysydd o fewn ei bortffolio.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar y canlynol:

- Darparu rhagor o wybodaeth am y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion eraill, gan gynnwys pam y credwch na ellir defnyddio’r data a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i wneud cymariaethau rhwng blynyddoedd;

- Edrych ymhellach ar ddata Rhwydwaith Seren mewn perthynas â'r disgyblion hynny nad ydynt efallai'n parhau ar y rhaglen, i nodi a oes unrhyw dueddiadau mewn perthynas â'u perfformiad dilynol a'u hymgysylltiad â'u dysgu;

- Darparu rhagor o wybodaeth am sut y gellir annog a chynyddu'r niferoedd sy'n astudio Cymraeg Safon Uwch, yn enwedig mewn perthynas ag addysgu a chynnwys y maes llafur;

- Darparu gwybodaeth am yr ymchwil a wnaed, a’r canllawiau a gyhoeddwyd, ynglŷn â sut y gallai ysgolion ddarparu addysgu a dysgu digidol o bell pe bai angen am hyn eto yn y dyfodol;

- Cadarnhau pryd y rhagwelir y cyhoeddir y canllawiau cryfach ar Deithio gan Ddysgwyr;

- Ystyried ymhellach sut y gellir adrodd yn ôl ar waith y Tasglu Presenoldeb i’r Senedd a/neu’r Pwyllgor;

- Rhannu'r data cyfranogiad e-sgol; a

- Rhannu, pan fydd ar gael, gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y dull ysgol gyfan.

 

 

(11.00)

3.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

3.1

Y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru)

Dogfennau ategol:

3.2

Dyfodol Dur yng Nghymru

Dogfennau ategol:

3.3

Gwybodaeth gan Randdeiliaid

Dogfennau ategol:

3.4

Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical

Dogfennau ategol:

(11.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a'r cyfarfod cyfan ar 7 Mawrth

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.10 - 11.30)

5.

Gwaith craffu cyffredinol ar waith Gweinidog y Gymraeg ac Addysg - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywodd yn y sesiwn graffu.

5.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog i wneud gwaith dilynol ar rai o'r pwyntiau a godwyd.

 

(11.30 - 12.15)

6.

Y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Byddai fersiwn ddiwygiedig yn cael ei thrafod yng nghyfarfod yr wythnos nesaf.