Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 89(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd - Gohiriwyd o 14 Medi Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y
Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Materion Gwledig a
Gogledd Cymru, a'r Trefnydd yn ateb cwestiynau ar ran y Gweinidog. Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1-2, 4 a 6-10. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 5.
Atebwyd cwestiynau 1, 4, 8 a 10 gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Atebwyd
cwestiynau 2, 6, 7 a 9 gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r
Trefnydd ar ran y Gweinidog Newid Hinsawdd.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Dirprwy
Weinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r
Trefnydd ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg - Gohiriwyd o 14 Medi Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.16 Gofynnwyd
cwestiynau 1-7, 9 a 11. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 10. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i
ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - Gohiriwyd tan 28 Medi Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd - Gohiriwyd tan 28 Medi Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Weinidog yr Economi Hefin
David (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y newyddion diweddar
bod Bearmach Cyf. ar Ystâd Ddiwydiannol Pantglas, Bedwas, wedi mynd i ddwylo'r
gweinyddwyr? Gofyn i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Heledd
Fychan (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal
gyda rhanddeiliaid lleol a chynrychiolwyr undebau ynglŷn â diogelu hawliau
gweithwyr yn dilyn y cyhoeddiad diweddar ynglŷn ag allanoli gwasanaethau
yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.03 Atebwyd gan Weinidog yr Economi Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y newyddion diweddar bod Bearmach
Cyf. ar Ystâd Ddiwydiannol Pantglas, Bedwas, wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? Atebwyd gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a
Chwaraeon Heledd Fychan (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda rhanddeiliaid
lleol a chynrychiolwyr undebau ynglŷn â diogelu hawliau gweithwyr yn dilyn
y cyhoeddiad diweddar ynglŷn ag allanoli gwasanaethau yng Nghanolfan Awyr
Agored Genedlaethol Plas Menai? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.22 Gwnaeth
Russell George ddatganiad am - PAPYRUS Elusen Atal Hunanladdiad Ifanc - 3 thad
yn codi arian er cof am eu plant sydd wedi cyflawni hunanladdiad. Gwnaeth
Natasha Asghar ddatganiad am - Diwrnod Alzheimer y Byd. Gwnaeth
Rhys ab Owen ddatganiad am - Tony Paris, un o Dri Caerdydd a gafodd eu carcharu
ar gam am lofruddiaeth, yn marw yn 65 oed. Gwnaeth
Delyth Jewell ddatganiad am - Teyrnged i Eddie Butler. Gwnaeth
Elin Jones ddatganiad am - Teyrnged i Mavis Nicholson, darlledwraig arloesol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Tlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd - Gohiriwyd o 14 Medi NDM8072 Jenny Rathbone
(Canol Caerdydd) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Dlodi tanwydd a'r Rhaglen
Cartrefi Clyd, a osodwyd ar
18 Mai 2022. Noder: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19
Awst 2022. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.31 NDM8072 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Dlodi
tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd, a osodwyd ar
18 Mai 2022. Noder: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19
Awst 2022. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Ynni adnewyddadwy yng Nghymru - Gohiriwyd o 14 Medi - Tynnwyd yn ôl Tynnwyd y cynnig yn ôl Cofnodion: Tynnwyd y cynnig yn
ôl |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd a nodi'r adroddiad blynyddol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer2021-22 - Gohiriwyd tan 28 Medi Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 - Gohiriwyd tan 12 Hydref Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro Dechreuodd yr eitem am
16.31 NNDM8075 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn
atal Rheol Sefydlog 12.22(i) dros dro er mwyn caniatáu i’r gwelliannau a
gyflwynwyd i NDM8073 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 21
Medi 2022. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Costau byw - Gohiriwyd o 14 Medi NDM8073 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu bod y
cynnydd presennol mewn biliau ynni yn anghynaladwy ac y bydd yn achosi straen
ariannol a chaledi i aelwydydd, busnesau, a grwpiau cymunedol, tra bod cwmnïau
tanwydd ffosil yn gwneud yr elw mwyaf erioed. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau argyfwng costau byw ehangach ar unwaith,
fel: a. haneru prisiau
trenau a gosod cap ar brisiau bws; b. gweithio gydag
awdurdodau lleol i glirio rhai o'r ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol sydd
wedi cronni yn ystod cyfnod y pandemig; c. rhewi rhent; d. ailgyflwyno mesurau
i wahardd troi allan yn y gaeaf; e. ehangu'r cynllun
prydau ysgol am ddim i blant ysgol uwchradd; f. cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysgol i £45. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Yn nodi bod
Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ardoll ar elw ynni. Yn croesawu'r camau a
gymerwyd gan Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â chostau byw, gan gynnwys: a) gwarant pris ynni,
sy’n rhoi cap ar gostau ynni; b) taliadau costau byw
i bob ar fudd-daliadau incwm isel a chredydau treth gwerth £650; c) taliad costau byw
anabledd gwerth £150; d) gostyngiadau misol
mewn biliau tanwydd o fis Hydref ymlaen gwerth £400; e) cynnydd yn y Cyflog
Byw Cenedlaethol i £9.50 yr awr; f) gostyniad yn y
gyfradd taper credyd cynhwysol; g) rhewi’r dreth
tanwydd; h) rhewi ffi'r
drwydded teledu am dwy flynedd; i) taliadau tanwydd
gaeaf ychwanegol. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi pobl, busnesau a'r trydydd
sector i wynebu'r heriau sydd i ddod. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi’r canlynol yn ei le: Yn credu bod
Llywodraeth y DU yn methu â dirnad difrifoldeb yr argyfwng hwn, ac y byddai’n
caniatáu i bobl sy’n gweithio dalu cost cap ynni yn hytrach na threthu elw
digynsail cynhyrchwyr nwy ac olew. Yn croesawu’r £1.6bn a
fuddsoddir yn benodol i helpu gyda chostau byw a’r rhaglenni cyffredinol sy’n
rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl a ddarperir gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn
ariannol hon, gan gynnwys: a) ehangu Taliad
Cymorth Tanwydd y Gaeaf o £200 ar gyfer 400,000 o aelwydydd y gaeaf hwn; b) dechrau cyflwyno
prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd o fis Medi 2022; c) buddsoddi £51.6m yn
y Gronfa Cymorth Dewisol i arbed pobl sydd mewn argyfwng ariannol difrifol; d) £4m ar gyfer talebau tanwydd i helpu pobl
sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw a banc tanwydd i bobl nad ydynt ar y prif
gyflenwad nwy. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.32 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8073 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu bod y cynnydd
presennol mewn biliau ynni yn anghynaladwy ac y bydd yn achosi straen ariannol
a chaledi i aelwydydd, busnesau, a grwpiau cymunedol, tra bod cwmnïau tanwydd
ffosil yn gwneud yr elw mwyaf erioed. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithredu mesurau argyfwng costau byw ehangach ar unwaith, fel: a. haneru prisiau trenau a
gosod cap ar brisiau bws; b. gweithio gydag awdurdodau
lleol i glirio rhai o'r ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol sydd wedi cronni yn
ystod cyfnod y pandemig; c. rhewi rhent; d. ailgyflwyno mesurau i
wahardd troi allan yn y gaeaf; e. ehangu'r cynllun prydau
ysgol am ddim i blant ysgol uwchradd; f. cynyddu'r lwfans cynhaliaeth
addysgol i £45.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Yn nodi bod
Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ardoll ar elw ynni. Yn croesawu'r camau a gymerwyd
gan Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â chostau byw, gan gynnwys: a) gwarant pris ynni,
sy’n rhoi cap ar gostau ynni; b) taliadau costau byw
i bobl ar fudd-daliadau incwm isel a chredydau treth gwerth £650; c) taliad costau byw
anabledd gwerth £150; d) gostyngiadau misol
mewn biliau tanwydd o fis Hydref ymlaen gwerth £400; e) cynnydd yn y Cyflog
Byw Cenedlaethol i £9.50 yr awr; f) gostyngiad yn y
gyfradd tapro credyd cynhwysol; g) rhewi’r dreth
tanwydd; h) rhewi ffi'r
drwydded teledu am ddwy flynedd; i) taliadau tanwydd
gaeaf ychwanegol. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi pobl,
busnesau a'r trydydd sector i wynebu'r heriau sydd i ddod. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi’r canlynol yn ei le: Yn credu bod
Llywodraeth y DU yn methu â dirnad difrifoldeb yr argyfwng hwn, ac y byddai’n caniatáu
i bobl sy’n gweithio dalu cost cap ynni yn hytrach na threthu elw digynsail
cynhyrchwyr nwy ac olew. Yn croesawu’r £1.6bn a
fuddsoddir yn benodol i helpu gyda chostau byw a’r rhaglenni cyffredinol sy’n
rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl a ddarperir gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn
ariannol hon, gan gynnwys: a) ehangu Taliad
Cymorth Tanwydd y Gaeaf o £200 ar gyfer 400,000 o aelwydydd y gaeaf hwn; b) dechrau cyflwyno
prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd o fis Medi 2022; c) buddsoddi £51.6m yn
y Gronfa Cymorth Dewisol i arbed pobl sydd mewn argyfwng ariannol difrifol; d)
£4m ar gyfer talebau tanwydd i helpu pobl sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw
a banc tanwydd i bobl nad ydynt ar y prif gyflenwad nwy. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8073 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu bod y cynnydd
presennol mewn biliau ynni yn anghynaladwy ac y bydd yn achosi straen ariannol
a chaledi i aelwydydd, busnesau, a grwpiau cymunedol, tra bod cwmnïau tanwydd
ffosil yn gwneud yr elw mwyaf erioed. 2. Yn credu bod
Llywodraeth y DU yn methu â dirnad difrifoldeb yr argyfwng hwn, ac y byddai’n
caniatáu i bobl sy’n gweithio dalu cost cap ynni yn hytrach na threthu elw
digynsail cynhyrchwyr nwy ac olew. 3. Yn croesawu’r
£1.6bn a fuddsoddir yn benodol i helpu gyda chostau byw a’r rhaglenni cyffredinol
sy’n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl a ddarperir gan Lywodraeth Cymru y
flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys: a) ehangu Taliad
Cymorth Tanwydd y Gaeaf o £200 ar gyfer 400,000 o aelwydydd y gaeaf hwn; b) dechrau cyflwyno
prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd o fis Medi 2022; c) buddsoddi £51.6m yn
y Gronfa Cymorth Dewisol i arbed pobl sydd mewn argyfwng ariannol difrifol; d)
£4m ar gyfer talebau tanwydd i helpu pobl sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw
a banc tanwydd i bobl nad ydynt ar y prif gyflenwad nwy.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig - Gohiriwyd tan 28 Medi Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.26 cafodd y trafodion eu hatal
dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 17.32 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer - Gohiriwyd o 14 Medi NDM8070 Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd) Darparu prydau
ysgol am ddim i bawb: yr heriau a'r cyfleoedd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.36 NDM8070 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Darparu prydau
ysgol am ddim i bawb: yr heriau a'r cyfleoedd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Dadl Fer (Joel James (Canol De Cymru)) - Gohiriwyd tan 28 Medi Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon |