Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Jane Dodds. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn: ·
Cynnig i
atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud) ·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. ·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.10pm Dydd
Mercher ·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer. ·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.40pm Cadarnhaodd
y Llywydd a'r Trefnydd y bydd y bleidlais ar Gyfnod 4 Bil Senedd Cymru (Aelodau
ac Etholiadau) yn cael ei chynnal yn ystod y cyfnod pleidleisio. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen Busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mawrth
21 Mai 2024 ·
Rheoliadau
Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024 (15 munud) |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mercher 5 Mehefin 2024 - ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Gwaith craffu
blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru: 2023 (30 munud)
|
|
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar
gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol ar 15 Mai: Mabon ap Gwynfor NNDM8571 Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod ysmygu yn lladd 5,600 o bobl y flwyddyn yng
Nghymru ac yn rhoi baich enfawr ar GIG Cymru o fwy na £300 miliwn bob blwyddyn; b) mai ysmygu yw prif achos afiechydon y gellir eu hatal
a marw cyn pryd yng Nghymru, gan achosi 3,100 o achosion o ganser bob blwyddyn; c) bod cynnydd amlwg i'w weld yng Nghymru yn nifer y bobl
ifanc sy’n fepio, ynghyd â chynnydd sydyn yn nifer y manwerthwyr sy'n gwerthu
cynhyrchion nicotin; d) y bydd mwy o ddibyniaeth ar nicotin ymhlith pobl iau
yn cynyddu’r galw am wasanaethau cymorth i roi'r gorau i nicotin yng Nghymru;
ac e) bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith
hirdymor eu penderfyniadau, gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd,
ac atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr
hinsawdd. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ymrwymo i weithredu penodau 2, 3 a 4 o Ddeddf Iechyd y
Cyhoedd (Cymru) 2017 yn llawn a fyddai'n ei gwneud yn bosibl: i) sefydlu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a
chynhyrchion nicotin; ii) ychwanegu troseddau a fyddai’n cyfrannu at orchymyn
mangre o dan gyfyngiad yng Nghymru, gan alluogi swyddogion gorfodi i wahardd
manwerthwr rhag gwerthu tybaco neu gynhyrchion nicotin am hyd at flwyddyn; a iii) gwahardd rhoi tybaco a chynhyrchion nicotin i berson
o dan 18 oed; b) sicrhau bod y Bwrdd Strategol ar gyfer Rheoli Tybaco
yn blaenoriaethu gweithredu cofrestr o fanwerthwyr tybaco a nicotin fel rhan o
ail gam y cynllun gweithredu ar reoli tybaco ar gyfer Cymru 2024-2026; c) ymrwymo i ymgyrch gyfathrebu wedi'i hariannu'n llawn i
gefnogi'r broses weithredu a newidiadau dilynol i reoliadau a deddfwriaeth; a d) sefydlu gweithgor i: i) goruchwylio'r broses o weithredu'r gofrestr o
fanwerthwyr yn brydlon; ii) archwilio sut y gallai'r gofrestr o fanwerthwyr
arwain y ffordd at gynllun trwyddedu a/neu adnoddau ar gyfer mesurau gorfodi
ychwanegol; a iii) cyflwyno'r data a gasglwyd o'r gofrestr i helpu i
dargedu ymdrechion i roi'r gorau i ysmygu a diogelu'r cyhoedd. |
|
Deddfwriaeth |
|
Ymateb gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch amserlen y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru). Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes ymateb gan y Pwyllgor Iechyd
a Gofal Cymdeithasol a chytunodd ar amserlen arfaethedig y Bil Iechyd a Gofal
Cymdeithasol (Cymru). Nododd y Pwyllgor Busnes y sylwadau a wnaed gan y
Pwyllgor mewn perthynas ag amserlen bosibl ar gyfer craffu ar yr Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol disgwyliedig ar y Bil Tybaco a Fepio. |
|
Papur i'w nodi: Llythyr gan Gadeirydd, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tybaco a Fepio Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a'r pryderon a godwyd
gan y Pwyllgor ynghylch oedi o ran gosod y Memorandwm. |