Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Helen Finlayson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/03/2020 - Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd - Y Pumed Cynulliad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r
cyfarfod; nid oedd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
(10.00–11.00) |
Systemau a ffiniau etholiadol: tystiolaeth lafar Yr Athro Roger Awan-Scully, Pennaeth Gwleidyddiaeth a
Chysylltiadau Rhyngwladol ac Athro Gwyddorau Gwleidyddol, Prifysgol Caerdydd Jess Blair, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel. |
|
(11.00) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 3.1 Nodwyd y papurau. |
|
Ymatebion i ymgynghoriad y Pwyllgor ar systemau a ffiniau etholiadol Dogfennau ategol:
|
||
(11.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod ar 20 Ebrill 2020 Cofnodion: 4.1 Tynnwyd y cynnig yn ôl. |
|
(11.00) |
Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.00–11.10) |
Systemau a ffiniau etholiadol: ystyried y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i
law. |
|
(11.10–11.20) |
Capasiti’r Cynulliad: y dull o ymgynghori Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cytunodd y Pwyllgor ei ddull o ymgynghori ar
gyfer ei ymchwiliad i gapasiti’r Cynulliad. |
|
(11.20–11.35) |
Ethol Cynulliad mwy amrywiol: diweddariad ar yr ymchwiliad Cofnodion: 8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd
mewn perthynas â’i ymchwiliad i amrywiaeth y Cynulliad. 8.2 Ystyriodd y Pwyllgor gofnod ysgrifenedig o’r
materion a drafodwyd yn ystod ei drafodaeth â rhanddeiliad ar amrywiaeth y
Cynulliad ar 10 Chwefror 2020, a chytunodd i’w gyhoeddi. |
|
(11.35–11.45) |
Blaenraglen waith Cofnodion: 9.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a
gyfer gweddill y tymor. 9.2 Yn sgil pandemig COVID-19, cytunodd y Pwyllgor
i ohirio ei ymweliad i Gaeredin, ac i ystyried maes o law pa newidiadau eraill
y dylid eu gweud i’r flaenraglen waith. |