Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/01/2020 - Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd - Y Pumed Cynulliad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2     Cafwyd ymddiheuriadau gan Delyth Jewell AC; dirprwyodd Dai Lloyd AC ar ei rhan.

(09.15–10.30)

2.

Ethol Cynulliad mwy amrywiol – sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr, Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Elaina Chamberlain, Pennaeth Democratiaeth, Amrywiaeth a Chydnabyddiaeth Ariannol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1   Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog.

2.2   Cytunodd y Gweinidog i:

i.      ysgrifennu at y Pwyllgor i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach yn dilyn ystyriaeth y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol o’r trawsgrifiad; a

ii.     darparu crynodeb o faterion a godwyd yn ystod trafodaethau â llywodraeth leol ynghylch galluogi cynghorwyr i gymryd ym musnes cynghorau o bell.

(10.30)

3.

Papurau i'w nodi

3.1

Llythyr gan y Llywydd – gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 2 Rhagfyr 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1   Nodwyd y papur.

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1   Derbyniwyd y cynnig.

(10.30–10.45)

5.

Ethol Cynulliad mwy amrywiol – ystyried y dystiolaeth lafar gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Cofnodion:

5.1   Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

(10.45–11.00)

6.

Capasiti’r Cynulliad – ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law yn y digwyddiad trafod gyda rhanddeiliaid ar 6 Ionawr 2020

Cofnodion:

6.1   Ystyriodd y Pwyllgor nodyn ysgrifenedig ar y materion a godwyd yn ystod ei ddigwyddiad trafod â rhanddeiliaid ar gapasti’r Cynulliad, a chytunwyd i’w gyhoeddi.