Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Chris Warner 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon (12:15)

2.

Gadael yr Undeb Ewropeaidd (12:15-12:25)

David Rees - Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

 

Cofnodion:

Trafododd y Fforwm yr angen i gydgysylltu’r gwaith yn ymwneud â gadael yr UE er mwyn osgoi dyblygu gwaith a sicrhau bod pob maes polisi wedi’i gynnwys. Cytunwyd bod rôl cadeirydd Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn allweddol yn y cyswllt hwn. Er mai’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol fyddai’n arwain ar faterion lefel uchel, nodwyd y byddai’r rhan fwyaf o’r pwyllgorau’n cyfrannu at y gwaith dros y blynyddoedd nesaf a'i bod yn bwysig sicrhau nad oedd dim yn cael ei ddiystyru oherwydd hynny.

 

Cynhaliwyd rhai trafodaethau anffurfiol rhwng cadeiryddion eisoes, er enghraifft, trafodwyd materion cyfansoddiadol gyda’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a thynnodd cadeiryddion eraill sylw at feysydd y byddent hwy’n debygol o’u hystyried cyn bo hir.

 

Cytunodd y Fforwm y dylai swyddogion baratoi papur ar yr ystod lawn o weithgareddau a gynlluniwyd yn y maes hwn ac y dylid ei ddosbarthu i'r holl Aelodau. Roeddent hefyd yn cytuno y dylai hyn fod yn eitem sefydlog ar agenda'r Fforwm.

Y wybodaeth ddiweddaraf: Mae papur wedi'i gyflwyno i’w drafod ar 5 Ebrill 2017.]

 

Yn ystod y drafodaeth, cytunwyd y dylid ymgymryd â’r gwaith o feithrin perthynas agosach â swyddfeydd preifat Ysgrifenyddion Cabinet unigol a / neu swyddogion yn adrannau Llywodraeth Cymru. Nodwyd bod hyn yn gweithio'n dda yn San Steffan, ond nid oedd wedi bod yn digwydd yn y Cynulliad ers gwahanu’n ffurfiol yn 2007. Byddai nodyn yn cael ei baratoi ar gyfer y cyfarfod nesaf yn esbonio’r protocolau presennol.

 

Y wybodaeth ddiweddaraf: Mae papur i'w nodi wedi’i ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer 5 Ebrill 2017.]

 

3.

Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) - (12:25-12:40)

Abi Phillips - Staff Comisiwn y Cynulliad, Rheolwr Prosiect Datblygiad Proffesiynol

 

Cofnodion:

Amlinellodd Abi Phillips gynnwys y papur a gofynnodd i’r Cadeiryddion roi sylwadau ar effeithiolrwydd y DPP a gyflwynwyd i’r pwyllgorau ers mis Mai – a oeddent yn awyddus i gael rhagor o sesiynau a beth oedd eu barn am yr  hwyluswyr a ddefnyddiwyd?

Dywedodd y Llywydd ei bod am i’r Aelodau gael mwy o gymorth i ofyn cwestiynau gan nodi nad oedd darllen cwestiynau a oedd wedi’u paratoi neu eu hawgrymu iddynt yn effeithiol. Roedd angen defnyddio dulliau holi manylach i wella’r gwaith craffu.

Nodwyd bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi gofyn am sesiwn arall yn dilyn y gwaith cychwynnol gyda Kate Faragher. Roeddent wedi cael adborth gonest ar sesiynau craffu cynharach. Roedd y Pwyllgor hefyd wedi cytuno i gynnal sesiwn arall ymhen chwe mis. Cytunwyd y byddai swyddogion yn paratoi nodyn ar gyfer y cadeiryddion ar y modd y cynhaliwyd sesiynau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i’w galluogi i ystyried sut i’w cymhwyso’n ehangach. 

Y wybodaeth ddiweddaraf: Wedi cwblhau.]

4.

Ymgysylltu (12:40 - 13:10)

Kevin Davies - Staff Comisiwn y Cynulliad, Uwch-reolwr Ymgysylltu Cyhoeddus

 

Cofnodion:

Rhoddodd Kevin Davies fraslun o’r dulliau amrywiol o ymgysylltu a ddefnyddir ar hyn o bryd yn ogystal â’r gwahanol ffyrdd o ymgysylltu sy’n cydnabod yr angen i hysbysu, cynnwys a grymuso pobl. Amlinellodd y manteision sydd ynghlwm wrth gynllunio gwaith ymgysylltu’n gynnar a’r hyn roedd rhai pwyllgorau wedi’i wneud i gynnwys y cyhoedd wrth gynllunio eu rhaglen waith neu gwmpas eu hymchwiliad.      

 

Nododd y Llywydd yr amrywiaeth o waith da sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Trafododd y Fforwm yr angen i’r pwyllgorau gyfarfod y tu allan i Fae Caerdydd gan nodi nad yw hynny bob amser yn golygu bod angen mynd ymhell. Nodwyd bod digwyddiad a gynhaliwyd yn ddiweddar ym Merthyr wedi denu pobl o ardal Abertawe gan ganiatáu i grwpiau gwahanol gyfrannu, o bosibl. 

 

Nododd Cadeiryddion lwyddiant digwyddiadau @Senedd a gofynnwyd am ragor o wybodaeth am y cynlluniau ar gyfer y Cynulliad hwn. 

Y wybodaeth ddiweddaraf: Mae papur i'w nodi wedi’i ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer 5 Ebrill 2017.]

 

5.

Eitemau'r Cadeirydd (13:10-13:15)

Cofnodion:

Y newid yn yr hinsawdd

Nododd Mark Reckless ei bod yn bwysig gweithredu’n drawsbynciol wrth graffu ar y newid yn yr hinsawdd gan gydnabod bod nifer o adrannau'r Llywodraeth yn gallu dylanwadu ar y gwaith. Dywedodd wrth y Cadeiryddion fod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn sefydlu grŵp cyfeirio arbenigol ac yn bwriadu sefydlu proses flynyddol ar gyfer galluogi pwyllgorau eraill i gyfrannu at y gwaith, a byddai dadl flynyddol yn y Cyfarfod Llawn hefyd.

Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

Trafododd y Fforwm y dull o graffu ar waith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. Nodwyd mai Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol  sy’n gyfrifol am roi’r Ddeddf ar waith ond cytunwyd bod gwaith y Comisiynydd o ddiddordeb i nifer o bwyllgorau, yn enwedig y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a’r Pwyllgor Cyllid, ac y gellid, o bosibl, sefydlu system ddeuol ar gyfer craffu ar waith y Comisiynydd o safbwynt cyffredinol ac ariannol. Gofynnwyd am gynigion i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Fforwm.

Y wybodaeth ddiweddaraf: Bydd Clercod yn trafod hyn ymhellach gyda Chadeiryddion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a’r Pwyllgor Cyllid.]

 

5.1

Y Newid yn yr hinsawdd - craffu trawsbynciol

Mark Reckless - Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

 

5.2

Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol - Pwyllgor Craffu

John Griffiths - Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau