Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Croesawodd y Cadeirydd Helen Mary Jones AC a gafodd ei hethol yn ddiweddar i'r Pwyllgor yn lle Llyr Gruffydd AC. Diolchodd i Llyr am ei holl waith ar y Pwyllgor.

1.3        Cytunodd y Pwyllgor y byddai Andrew R T Davies AC yn gweithredu fel Cadeirydd dros dro yn unol â pharagraff 10.2 o'r weithdrefn gwyno.

1.4        Daeth Michelle Brown AC fel Aelod arall ar gyfer Eitem 3

 

(09.30-10.00)

2.

Cod Ymddygiad - Adolygiad: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad 'Creu'r Diwylliant Cywir'

SoC(5)-19-18 Paper 1 – Welsh Government response on ‘Creating the Right Culture’ report

SoC(5)-19-18 Papur 2 – Llythyr gan Jayne Bryant AC, Cadeirydd y Pwyllgor, at y Llywydd ynghylch adroddiad ‘Creu'r Diwylliant Cywir’ (11 Hydref 2018)

SoC(5)-19-18 Papur 3 – Ymateb gan y Llywydd at Gadeirydd y Pwyllgor ynghylch yr adroddiad ‘Creu'r Diwylliant Cywir’ (30 Hydref 2018)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd yr ohebiaeth. Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at y Prif Weinidog newydd ynghylch Cod y Gweinidogion ddechrau 2019.

(10.00 - 11.00)

3.

Trafod adroddiad y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

3.1 Ystyriodd Aelodau'r Adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.1(i)

3.2 Bydd y Clercod yn llunio adroddiad i'r Aelodau ei ystyried.