Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel

Cyswllt: Meriel Singleton 

Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Bennett AC.

1.3       Croesawodd y Cadeirydd Andrew R.T. Davies AC i'w gyfarfod cyntaf yn sgil cael ei ethol yn aelod o'r Pwyllgor ar 18 Medi 2018, a diolchodd i Paul Davies AC am ei holl gyfraniadau i waith y Pwyllgor.

 

(09.30-10.15)

2.

Cod Ymddygiad - Adolygiad: Trafod ymateb Comisiwn y Cynulliad i'r adroddiad 'Creu'r Diwylliant Cywir'

SoC(5) -17-18 Papur 1 - Ymateb Comisiwn y Cynulliad i’r adroddiad, 'Creu'r Diwylliant Cywir'.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd yr Aelodau ymateb Comisiwn y Cynulliad i'r argymhellion a geir yn yr adroddiad 'Creu'r Diwylliant Cywir'.

2.2 Cytunodd yr Aelodau y byddai'r Cadeirydd yn ymateb i'r Llywydd a gofyn am amserlen gliriach ar gyfer ymateb i Argymhelliad 14.

2.3 Nododd yr Aelodau y bydd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru i Argymhelliad 12 ar gael yn ddiweddarach yn y mis ac y bydd yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

(10.15-10.30)

3.

Adroddiad Blynyddol Grwpiau Trawsbleidiol: Trafod yr adroddiad ar gyfer 2017-18

SoC(5)-17-18 Papur 2 – Adroddiad Blynyddol y Grwpiau Trawsbleidiol 2017-18

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau Adroddiad Monitro'r Grwpiau Trawsbleidiol 2017-18 a baratowyd gan y Swyddfa Gyflwyno ar gyfer y Pwyllgor yn unol â pharagraff 44 o'r rheolau ar weithredu Grwpiau Trawsbleidiol.

3.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at y Llywydd yn nodi eu hargymhellion a'r camau a awgrymir ar gyfer y Grwpiau Trawsbleidiol nad ydynt wedi cydymffurfio â'r rheolau ac sydd o'r herwydd yn dod o dan Gategorïau B ac C yn yr Adroddiad.