Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Amseriad disgwyliedig: Preifat
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Dywedodd Llyr Gruffydd AC nad
oedd wedi cymryd rhan yn nhrafodaeth Grŵp Plaid Cymru ynglŷn â'r
ymateb a gyflwynwyd i ymgynghoriad y Pwyllgor ar lobïo. |
|
(09.30 - 10.00) |
Y Comisiynydd Safonau: sesiwn gyflwyniadol gyda'r Comisiynydd Safonau Syr Roderick Evans QC Cofnodion: 2.1 Amlinellodd Syr Roderick Evans QC, Comisiynydd Safonau, ei
flaenoriaethau ar gyfer ei dymor yn y swydd. |
|
(10.00 -11.00) |
Lobïo: Trafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad SoC(5)-01-17 Papur 1 – Llythyr gan y Prif Weinidog i Weinidogion y
Cynulliad (20 Ionawr 2017) Brîff cyfreithiol ar God Gweinidogion Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Trafododd yr Aelodau yr ymatebion i ymgynghoriad y Pwyllgor ar lobïo
a'r llythyr gan y Prif Weinidog ynghylch cyhoeddi dyddiaduron Gweinidogion. 3.2 Gofynnodd yr Aelodau am gael paratoi matrics o'r themâu cyffredin sy'n
dod i'r amlwg o'r ymatebion. 3.3 Cytunodd yr Aelodau i gymryd tystiolaeth lafar fel rhan o'r ymchwiliad
hwn. |