Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2       Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(09.30 - 09.40)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papur ei nodi, a chytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Llywydd gan nodi barn y Pwyllgor.

 

2.1

Adnoddau ar gyfer craffu ar Brexit: Llythyr gan y Llywydd (16 Mawrth 2018)

Dogfennau ategol:

(09.40 - 10.00)

3.

Lobïo: trafod yr ymateb i adroddiad y Pwyllgor

SoC(5)-07-18 Papur 1 - Ymateb gan Gomisiwn y Cynulliad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau yr ymateb a gafwyd gan Gomisiwn y Cynulliad a sut y byddai'r effaith yn cael ei monitro.

 

(10.00 - 11.00)

4.

Cod Ymddygiad - Adolygiad: Adroddiad Cynnydd ar Ymchwiliad y Pwyllgor

SoC(5)-07-18 Papur 2 – Llythyr gan y Cadeirydd at Brif Weinidog Cymru (7 Mawrth 2018)

SoC(5)-07-18 Papur 3 – Llythyr gan Brif Weinidog Cymru at y Cadeirydd (4 Ebrill 2018)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd a thrafododd yr Aelodau yr ymateb a gafwyd gan y Prif Weinidog. Cytunodd yr Aelodau i ddychwelyd at yr eitem.

4.2 Rhoddodd y Clerc y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar i'r Aelodau ynghylch y polisi drafft diwygiedig ar urddas a pharch. Cytunodd yr Aelodau i ddychwelyd at yr eitem hon yn ystod y cyfarfod nesaf.