Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Amseriad disgwyliedig: Preifat
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor. 1.2 Ni chafwyd
unrhyw ymddiheuriadau. |
|
(09.30-10.00) |
Lobïo: Ystyried yr adroddiad terfynol SoC(5)-10-17
Papur 1 - Adroddiad drafft Cofnodion: 2.1 Ystyriodd yr Aelodau Ragair drafft y Cadeirydd i'r adroddiad a nododd y
bydd adroddiad drafft terfynol yn cael ei ddosbarthu y tu allan i'r Pwyllgor. |
|
(09.30 - 10.30) |
Diwygio'r Cynulliad SoC(5)-10-17
Papur 2 - Briffio cyfreithiol ar oblygiadau Deddf Cymru 2017 i Adran 36 Deddf
Llywodraeth Cymru 2006 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Rhoddodd Ymgynghorydd Cyfreithiol y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf
ar lafar i ychwanegu at ei bapur ar S36 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. 3.2 Rhoddodd y Comisiynydd Safonau ei farn ar yr adran berthnasol ac
awgrymodd ei fod yn siarad â'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus i ganfod a yw'n
teimlo bod y trefniadau presennol yn foddhaol. Awgrymodd hefyd iddo edrych yn
ôl ar y Protocol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Comisiynydd Safonau,
Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron ar Ymchwilio i
Droseddau Honedig o dan Adran 36(7) o Ddeddf Llywodraeth Cymru. 3.2 Gofynnodd y Pwyllgor i'r
Comisiynydd Safonau fynd yn ei flaen fel yr awgrymwyd a chytunwyd i ailystyried
y mater hwn unwaith y bydd wedi canfod y wybodaeth. |