Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 243KB) Gweld fel HTML (118KB)

 

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rowlands AC.

1.3       Rhoddodd y Cadeirydd deyrnged i'r Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan.

1.4       Cydymdeimlodd y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, â theuluoedd y rhai a gafodd eu heffeithio gan y digwyddiad ym Manceinion ar 22 Mai.

 

(09.45- 10.30)

2.

Ymchwiliad i Lobïo: Sesiwn dystiolaeth 4

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

SOC(5)-05-17 Papur 1 - Ymateb i'r ymgynghoriad gan Unlock Democracy a Spinwatch

 

Alexandra Runswick – Cyfarwyddwr, Unlock Democracy

Yr Athro David Miller – Cyfarwyddwr, Spinwatch

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Alexandra Runswick, Cyfarwyddwr Unlock Democracy a'r Athro David Miller, Cyfarwyddwr Spinwatch, ynghylch yr ymchwiliad i lobïo.

2.1 Cytunodd Alexandra Runswick i anfon copi o'r ymarfer mapio a wnaed ar gofrestrau gwirfoddol sydd ar waith ar hyn o bryd.

 

 

(10.30)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitem 4

 

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30 - 11.00)

4.

Ymchwiliad i Lobïo: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.