Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/10/2019 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Janet Finch-Saunders a Russell George. |
|
Materion ynghylch y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AC - Prif Weinidog
Cymru Liz Lalley, Llywodraeth Cymru Des Clifford, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor
yn craffu ar waith y Prif Weinidog ynghylch y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
|
|
Sesiwn i Graffu ar Waith y Gweinidog - Materion Amserol Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AC - Prif Weinidog
Cymru Cofnodion: Gofynnodd
yr Aelodau gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol. Cytunodd y
Prif Weinidog i ddarparu’r canlynol: ·
nodyn ar y
trafodaethau y mae ei swyddogion yn eu cael gyda Vertex Pharmaceuticals ar
argaeledd y cyffur ffibrosis systig Orkambi yng Nghymru; a ·
chadarnhad
a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud asesiad o effaith ansicrwydd mewn perthynas
â buddsoddiad gan Gronfa Bensiwn Byddin Twrci ar ddyfodol y diwydiant dur yng
Nghymru. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 5 Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig |
|
Trafod sesiynau tystiolaeth blaenorol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth o’r sesiynau blaenorol a chytunwyd ar y trefniadau ar
gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Chwefror 2020. |