Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/11/2018 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rowlands, Jayne Bryant a Mike Hedges.

 

2.

Sesiwn graffu gweinidogol: Cyfnod Prif Weinidog Cymru yn ei swydd (2009 – 2018)

Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC - Prif Weinidog Cymru

Jo Salway - Pennaeth Swyddfa’r Cabinet

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog ar agweddau ar waith Llywodraeth Cymru yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog.

 

Cytunodd y Prif Weinidog i ofyn i swyddogion gynnwys ymchwiliad o'r gwahaniaeth mewn cyflogau ar gyfer gweithwyr yn y diwydiant ffilm yng Nghymru o gymharu â Lloegr fel rhan o'r gwaith maent yn ei wneud mewn perthynas â chyllid Llywodraeth Cymru i'r diwydiant ffilm yng Nghymru.

 

3.

Sesiwn i Graffu ar Waith y Gweinidog - Materion Amserol

Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC - Prif Weinidog Cymru

Jo Salway - Pennaeth Swyddfa’r Cabinet

Cofnodion:

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol.

 

Cytunodd y Prif Weinidog i ysgrifennu at y Swyddfa Gartref yn gofyn iddynt ailystyried ceisiadau fisa i'r actorion ifanc sydd am deithio i Gymru o India i ffilmio Jungle Cry.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Weinidog a Jo Salway am ddod i'r cyfarfod.  Diolchodd hefyd i'r Prif Weinidog am ei ymgysylltu â'r Pwyllgor ac am gefnogi polisi'r Pwyllgor o gynnal cyfarfodydd y tu allan i Gaerdydd.

 

4.

Papur(au) i'w nodi

PTN 1 - Ymateb gan y Prif Weinidog yn dilyn y cyfarfod ar 6 Gorffennaf 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitem 6

Cofnodion:

Ni chafodd y Cynnig ei wneud.

 

6.

Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn flaenorol

Cofnodion:

Ni wnaeth y Pwyllgor y cynnig i gyfarfod yn breifat i drafod y dystiolaeth o'r sesiwn flaenorol.