Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/11/2018 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan David Rowlands, Jayne Bryant a Mike Hedges. |
|
Sesiwn graffu gweinidogol: Cyfnod Prif Weinidog Cymru yn ei swydd (2009 – 2018) Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC - Prif Weinidog Cymru Jo Salway - Pennaeth Swyddfa’r Cabinet Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r
Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog ar agweddau ar waith Llywodraeth
Cymru yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog. Cytunodd y
Prif Weinidog i ofyn i swyddogion gynnwys ymchwiliad o'r gwahaniaeth mewn
cyflogau ar gyfer gweithwyr yn y diwydiant ffilm yng Nghymru o gymharu â Lloegr
fel rhan o'r gwaith maent yn ei wneud mewn perthynas â chyllid Llywodraeth
Cymru i'r diwydiant ffilm yng Nghymru. |
|
Sesiwn i Graffu ar Waith y Gweinidog - Materion Amserol Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC - Prif Weinidog Cymru Jo Salway - Pennaeth Swyddfa’r Cabinet Cofnodion: Gofynnodd
yr Aelodau gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol. Cytunodd y
Prif Weinidog i ysgrifennu at y Swyddfa Gartref yn gofyn iddynt ailystyried
ceisiadau fisa i'r actorion ifanc sydd am deithio i Gymru o India i ffilmio
Jungle Cry. Diolchodd
y Cadeirydd i'r Prif Weinidog a Jo Salway am ddod i'r cyfarfod. Diolchodd hefyd i'r Prif Weinidog am ei
ymgysylltu â'r Pwyllgor ac am gefnogi polisi'r Pwyllgor o gynnal cyfarfodydd y
tu allan i Gaerdydd. |
|
Papur(au) i'w nodi PTN 1 - Ymateb gan y Prif
Weinidog yn dilyn y cyfarfod ar 6 Gorffennaf 2018 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nodwyd y
papur. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 6 Cofnodion: Ni chafodd
y Cynnig ei wneud. |
|
Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn flaenorol Cofnodion: Ni wnaeth
y Pwyllgor y cynnig i gyfarfod yn breifat i drafod y dystiolaeth o'r sesiwn
flaenorol. |