Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol
Cyswllt: Graeme Francis
Amseriad disgwyliedig: Yr Hen Goleg, Aberystwyth
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/07/2018 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Mick Antoniw, Jayne Bryant, John Griffiths, Lynne Neagle a
Bethan Sayed. |
|
Sesiwn i Graffu ar Waith y Gweinidog - Y Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC - Prif Weinidog Cymru Jason Thomas, Cyfarwyddwr, Diwylliant, Chwaraeon a
Twristiaeth Mari Stevens, Dirprwy Gyfarwyddwr, Marchnata Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Bu'r
Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog ar y diwydiant twristiaeth yng
Nghymru, yn enwedig mewn perthynas â Strategaeth Llywodraeth Cymru
(Partneriaeth ar gyfer Twf), cefnogaeth i fusnesau bach ac effaith Brexit, gan
gynnwys tegwch o ran symudiad pobl. 2.2
Cytunodd y Prif Weinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am: ·
pryd y
bydd canlyniadau'r astudiaeth ddichonoldeb i ailagor y rheilffordd rhwng
Aberystwyth a Chaerfyrddin yn cael eu cyhoeddi a beth fydd y camau nesaf; ·
unrhyw
ddiweddariad i'r cynllun gweithredu sy'n sail i'r Bartneriaeth ar gyfer Twf,
sef strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer twristiaeth, am weddill y
strategaeth; ac ·
ymchwil i
broffil ymwelwyr safleoedd Cadw. |
|
Sesiwn i Graffu ar Waith y Gweinidog - Materion Amserol Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC - Prif Weinidog Cymru Cofnodion: Gofynnodd
yr Aelodau gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol. |
|
PTN 1 - Ymateb gan y Prif Weinidog yn dilyn y cyfarfod ar 16 Chwefror 2018 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nodwyd y
papur. |
|
PTN 2 - Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2 i roi cyfarwyddyd i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nodwyd y
papur. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Eitem 6 Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig. |
|
Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn flaenorol Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn y sesiynau blaenorol a chytunodd i
ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ragor o wybodaeth am nifer o faterion. |