Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Theatr Hafren, y Drenewydd
Cyswllt: Graeme Francis
Amseriad disgwyliedig: External, Theatr Hafren, y Drenewydd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/02/2018 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins, Lynne Neagle, Nick Ramsay a
David Rees. 1.3 Croesawodd y Cadeirydd Mick Antoniw i'r Pwyllgor, a diolchodd i Huw
Irranca-Davies am ei gyfraniad at waith y Pwyllgor yn ystod ei amser fel aelod
ohono. |
||
(11:30-13:00) |
Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - Y Diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC - Prif Weinidog Cymru Tim Render, Cyfarwyddwr Tir, Natur a Fwyd David Morris, Dirprwy Bennaeth yr Is-adran Fwyd Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog mewn perthynas â'r
diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, yn enwedig o ran effaith Brexit ac effaith
trefniadau masnachu posibl yn y dyfodol. 2.2 Cytunodd y Prif Weinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor
ynghylch y materion a ganlyn: ·
pa un a fyddai'n bosibl i Lywodraeth Cymru ddarparu cymorth pellach i
gwmnïau sydd am fod yn rhan o deithiau masnach tramor sy'n cael eu harwain gan
Lywodraeth Cymru, gan gynnwys pa un a fyddai'n bosibl trefnu bod y daith gyntaf
yn rhad ac am ddim; a ·
sut y gellid cefnogi'r broses o gyflenwi cynhyrchion
Cymreig i fanwerthwyr mawr. 2.3 Cytunodd y Prif Weinidog y byddai'n rhoi ystyriaeth bellach i'r syniad
o ddynodi bwyd a diod fel thema dwristiaeth am flwyddyn yn y dyfodol. |
|
(13:00-13:30) |
Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - Materion Amserol Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC - Prif Weinidog Cymru Cofnodion: Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nodwyd y papur. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Item
6 Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
||
Trafod y dystiolaeth a gafwyd o'r sesiwn flaenorol Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn y sesiwn flaenorol a
chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ragor o wybodaeth am nifer
o faterion. |