Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF
1MB) Gweld fel HTML
(281KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1 Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon. 2.2
Croesawodd y Cadeirydd y Prif Weinidog a'i swyddogion i'r cyfarfod. |
||
Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC - Prif Weinidog Cymru Jo Salway - Pennaeth
Is-Adran y Cabinet Will Whiteley - Pennaeth
Uned y Rhaglen Ddeddfwriaethol a Llywodraethiant |
||
(09:00-10:40) |
Rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer y Pumed Cynulliad - Symud Cymru Ymlaen 2016-2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1.1 Bu'r
Pwyllgor yn holi'r Prif Weinidog ynghylch rhaglen lywodraethu Llywodraeth
Cymru. 2.1.2
Gwnaeth y Prif Weinidog rannu â'r Pwyllgor lythyr dyddiedig 14 Gorffennaf 2016
a oedd yn ymdrin ag aelodaeth y Grŵp Diwygio Deddfwriaethol. |
|
(10:40-11:00) |
Trafodaeth ar Faterion Cyfoes Cofnodion: 2.2.1
Gofynnodd y Pwyllgor nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog ynghylch materion
cyfoes. 2.2.2
Cytunodd y Prif Weinidog i roi nodyn ynghylch y sefyllfa gyfreithiol mewn
perthynas â thollau Pont Hafren, yn benodol ynglŷn â'r union adeg y bydd y
bont yn cael ei throsglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 4 Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig. |
||
(11:00-11:30) |
Trafod y Dystiolaeth o'r Sesiwn Flaenorol Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn y sesiwn flaenorol a chytunodd i
ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ragor o wybodaeth am nifer o faterion. |