Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/03/2020 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1         Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2         Cafwyd ymddiheuriad gan Huw Irranca-Davies AC ac Alun Davies AC

 

(13.30-13.35)

2.

Papurau i’w nodi

2.1

Papur i'w nodi 1: Adroddiad ar Berfformiad Rhwydwaith Tramor Llywodraeth Cymru - Chwarter 3 2019/20

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.1 Nodwyd y papur.

 

(13.35)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(13.35-14.05)

4.

Gohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor Undeb Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi at y Cadeirydd ynghylch ymgysylltiad parhaus â'r deddfwrfeydd datganoledig - trafod yr ymateb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1  Cytunodd yr Aelodau i anfon yr ohebiaeth ddrafft, yn amodol ar fân newidiadau.

 

(14.05-14.20)

5.

Ymchwiliad Is-bwyllgor Marchnad Fewnol yr UE Tŷ'r Arglwyddi i gymorth gwladwriaethol - trafod yr ymateb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1  Cytunodd yr Aelodau i anfon yr ohebiaeth ddrafft, yn amodol ar fân newidiadau.

 

(14.20-14.30)

6.

Gwaith craffu ar gytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau’r Cytundeb ar y Trefniadau rhwng Gwlad yr Iâ,  Liechtenstein, Norwy a'r Deyrnas Unedig yn dilyn ymadawiad y DU ‘r UE, Trefniadau’r EEA a Chytundebau perthnasol eraill rhwng y DU a Gwladwriaethau EFTA yr AEE yn rhinwedd y ffaith bod y DU wedi bod yn aelod o’r UE.

6.1.1 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ragor o wybodaeth am y Cytundeb Gwahanu.