Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhys Morgan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/09/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Delyth Jewell.

 

(13.30-14.30)

2.

Sesiwn graffu gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Andrew Gwatkin, Llywodraeth Cymru

Emma Edworthy, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(14.30-15.30)

3.

Sesiwn graffu gyda James Duddridge AS, Is-Ysgrifennydd Seneddol (yr Adran ar gyfer Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd)

James Duddridge AS, yr Adran ar gyfer Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(15.30-15.35)

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Papur i'w nodi 1: Papur i'w nodi 1: Gohebiaeth gan yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch mynychu cyfarfod Pwyllgor - 12 Medi 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.1  Nodwyd y papur.

 

4.2

Papur i'w nodi 2: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch cysylltiadau rhyng-sefydliadol - 13 Medi 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.1  Nodwyd y papur.

 

 

4.3

Papur i'w nodi 3: Adroddiad gan y Ganolfan Astudiaethau Trawsffiniol ar y siarter gyffredin newydd ar gyfer cydweithredu o fewn yr ynysoedd hyn a rhyngddynt - 19 Medi 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3.1  Nodwyd y papur.

 

 

(15.35)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1     Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.35-15.50)

6.

Sesiwn graffu gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol - ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1     Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(15.50-16.05)

7.

Sesiwn graffu gyda James Duddridge AS, Is-Ysgrifennydd Seneddol (yr Adran ar gyfer Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd) - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1     Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(16.05-16.15)

8.

Craffu ar fframweithiau polisi cyffredin y DU: proses graffu ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1     Trafododd yr aelodau'r broses graffu ddrafft a chytunwyd i wneud gwaith pellach yn y maes hwn.

 

(16.15-16.25)

9.

Craffu ar gytundebau rhyngwladol: proses graffu ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1     Trafododd yr aelodau'r broses graffu ddrafft a chytunwyd i wneud gwaith pellach yn y maes hwn.