Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhys Morgan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/09/2018 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Jenny Rathbone a Jack Sargeant. 1.3
Diolchodd
y Cadeirydd i Suzy Davies a Mark Isherwood am eu gwaith ar y Pwyllgor, a
chroesawodd David Melding a Mark Reckless. |
|
(14.00-14.10) |
Papurau i’w nodi |
|
Gohebiaeth gan Dr Richard Greville, Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain ynghylch yr ymchwiliad dilynol i sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit - iechyd a meddyginiaethau - 15 Awst 2018 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd
y papur. |
||
Gohebiaeth gan Adrian Greason-Walker, Cynghrair Twristiaeth Cymru ynghylch yr ymchwiliad dilynol i sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit - porthladdoedd - 30 Awst 2018 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.2 Nodwyd
y papur. |
||
Gohebiaeth gan Tina Donnelly, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru ynghylch yr ymchwiliad dilynol i sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit - iechyd a meddyginiaethau - 31 Awst 2018 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.3 Nodwyd
y papur. |
||
Gohebiaeth gan Nesta Lloyd-Jones, Conffederasiwn GIG Cymru ynghylch yr ymchwiliad dilynol i sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit - iechyd a meddyginiaethau - 3 Medi 2018 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.4 Nodwyd
y papur. |
||
Gohebiaeth gan Robin Smith, Grŵp Cludo Nwyddau ar y Rheilffyrdd ynghylch yr ymchwiliad dilynol i sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit - porthladdoedd - 4 Medi 2018 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.5 Nodwyd
y papur. |
||
Gohebiaeth gan Anna Malloy, Porthladd Aberdaugleddau ynghylch yr ymchwiliad dilynol i sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit - porthladdoedd - 7 Medi 2018 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.6 Nodwyd
y papur. |
||
Gohebiaeth gan Liam Anstey, BMA Cymru Wales ynghylch yr ymchwiliad dilynol i sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit - iechyd a meddyginiaethau - 7 Medi 2018 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.7 Nodwyd
y papur. |
||
(14.10) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 3.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14.10-14.30) |
Sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit? - ystyried yr ymatebion a gafwyd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Trafododd yr Aelodau'r ymatebion a gafwyd
a chytunwyd i ysgrifennu at y Prif Weinidog i gael eglurder ar nifer o
bwyntiau. |
|
(14.30-14.50) |
Cymru yn y Byd: ymchwiliad i ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at faterion allanol - crynodeb rapporteur Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1
Cyflwynodd Jane Hutt ei chanfyddiadau yn y crynodeb rapporteur i'r Aelodau. 5.2
Trafododd yr Aelodau'r crynodeb rapporteur a chytunwyd i gyhoeddi ei gynnwys
maes o law. 5.3
Cytunodd yr Aelodau i fwrw ymlaen â cham nesaf yr ymchwiliad fel rhan o'i waith
ehangach ar berthynas Cymru yn y dyfodol ag Ewrop. |
|
(14.50-15.10) |
Cymru yn y Byd: ymchwiliad i ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at faterion allanol - ystyried llythyr drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1
Trafododd yr Aelodau'r llythyr drafft at y Prif Weinidog, a chytunwyd arno. |
|
(15.10-15.30) |
Blaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Trafododd yr Aelodau Flaenraglen Waith y Pwyllgor ar gyfer tymor yr hydref a
chytuno arni. |