Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/10/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop.

 

(13.30-14.30)

2.

Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit

Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit

Simon Brindle, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(14.30-14.35)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Papur i'w nodi 1: Gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru at y Cadeirydd ynghylch gwaith dilynol yn sgil adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: 'Paratoadau yng Nghymru ar gyfer Brexit "heb gytundeb"' - 27 Medi 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.1  Nodwyd y papur.

 

(14.35)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1     Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.35-15.35)

5.

Sesiwn friffio breifat ar gytundebau rhyngwladol

Emma Edworthy, Llywodraeth Cymru

Jonathan Price, Llywodraeth Cymru

Owain Morgan, Llywodraeth Cymru

 

Cofnodion:

5.1     Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio breifat ar gytundebau rhyngwladol gan swyddogion Llywodraeth Cymru.

5.2     Atebodd y swyddogion gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(15.35-15.50)

6.

Sesiwn graffu gyda'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1     Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(15.50-16.00)

7.

Swyddfa Archwilio Cymru – Trafod y gwaith dilynol yn sgil adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru:'Paratoadau yng Nghymru ar gyfer Brexit "heb gytundeb"'

Cofnodion:

7.1     Cytunodd yr Aelodau i ymateb i lythyr yr Archwilydd Cyffredinol er mwyn anfon y wybodaeth ddiweddaraf ato ynghylch y gwaith y mae’r Pwyllgor yn debygol o’i wneud yn y maes hwn yn y dyfodol.