Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/03/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2     Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson, Michelle Brown a David Melding.

1.3     Roedd Suzy Davies a Vikki Howells yn bresennol fel dirprwyon.

1.4     Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant gan ei fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop. Cytunodd Mr Irranca-Davies i beidio â gofyn cwestiynau a oedd yn ymwneud â'r rolau hyn.

 

(14.00-15.30)

2.

Sesiwn graffu gyda Phrif Weinidog Cymru

Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru

Des Clifford, Llywodraeth Cymru

Piers Bisson, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Atebodd y Prif Weinidog gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(15.30-15.35)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Papur 1 i'w nodi - Gohebiaeth gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru at y Cadeirydd ynghylch dyfodol cyllid rhanbarthol ar ôl Brexit - 12 Mawrth 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Nodwyd y papur.

 

3.2

Papur 2 i'w nodi - Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at Gadeiryddion Pwyllgorau ynghylch cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng y Cynulliad a'r Llywodraeth - 15 Mawrth 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2     Nodwyd y papur.

 

 

3.3

Papur 3 i'w nodi - Gohebiaeth gan y Gweinidog Brexit at y Cadeirydd ynglŷn â dilyniant i gyfarfod 11 Mawrth - 18 Mawrth 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3     Nodwyd y papur.

 

 

3.4

Papur 4 i'w nodi - Gohebiaeth gan Robin Walker AS at y Cadeirydd ynglŷn â gwahoddiad i ymddangos gerbron y Pwyllgor - 18 Mawrth 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4     Nodwyd y papur.

 

 

3.5

Papur 5 i'w nodi - Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Cadeirydd mewn ymateb i lythyr y Pwyllgor ynghylch rôl y Cynulliad o ran deddfu ar gyfer Brexit - 20 Mawrth 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5     Nodwyd y papur.

 

 

(15.35)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1     Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.35-15.50)

5.

Sesiwn graffu gyda Phrif Weinidog Cymru - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1     Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(15.50-16.00)

6.

Craffu ar gytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Trafododd yr Aelodau’r cytundebau canlynol:

·         Cytundeb Masnach rhwng y DU a’r Swistir a Liechtenstein

·         y DU / Swistir: Cytundeb ar Hawliau Dinasyddion yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE a’r Cytundeb ar Ryddid Pobl i Symud

6.2     Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i drafod y mater a godwyd ynghylch ymgynghori ar y cytundebau hyn, a chytundebau blaenorol.

 

(16.00-16.05)

7.

Paratoi ar gyfer Brexit – Trafod gohebiaeth ddrafft at y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1     Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit ynghylch adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch parodrwydd ar gyfer Brexit.