Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(12.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden ac Eluned Morgan; dirprwyodd Julie Morgan a Jenny Rathbone ar eu rhan.

 

(12.00 - 13.00)

2.

Gadael yr Undeb Ewropeaidd: y goblygiadau i Gymru - sesiwn dystiolaeth gyda'r Prif Weinidog

Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC - Prif Weinidog Cymru

Des Clifford – Cyfarwyddwr, Swyddfa'r Prif Weinidog

Piers Bisson - Dirprwy Gyfarwyddwr, Trefniadau Pontio Ewropeaidd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd y Prif Weinidog a'i swyddogion gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(13.00)

3.

Papur(au) i'w nodi:

Cofnodion:

3.1 Nid oedd unrhyw bapurau i'w nodi.

 

(13.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(13.00 - 13.30)

5.

Gadael yr Undeb Ewropeaidd: y goblygiadau i Gymru - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.