Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/02/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(10.30 - 11.15)

2.

Ymchwiliad i weithgaredd corfforol ymhlith plant a phobl ifanc - sesiwn dystiolaeth 1 - Ray Williams

Ray Williams, Canolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys Môn

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ray Williams.

 

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 – llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch rhoi Rhan 5 y Ddeddf ar waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â chychwyn Rhan 5 o'r Ddeddf.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a'r cyfarfod ar 14 Chwefror (er mwyn ystyried yr adroddiad drafft ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) a thrafod y flaenraglen waith).

 

(11.15 - 11.25)

5.

Ymchwiliad i weithgaredd corfforol ymhlith plant a phobl ifanc - trafod y dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitem 2 y cyfarfod.

 

(11.30 - 12.15)

6.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) – briff technegol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ynghylch Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) gan Chris Gittins, Pennaeth Datblygu Camddefnyddio Sylweddau, Beverley Morgan, Rheolwr y Bil, Bethan Roberts, Adran y Gwasanaethau Cyfreithiol, a Janine Hale, Prif Swyddog Ymchwil.

 

(12.30 - 13.15)

7.

Ymchwiliad i weithgaredd corfforol ymhlith plant a phobl ifanc - gweithgarwch ymgysylltu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cafodd y Pwyllgor sgwrs ar y we gyda phlant a phobl ifanc i siarad am eu lefelau gweithgarwch ac unrhyw rwystrau y maent yn eu hwynebu rhag cymryd rhan mewn gweithgarwch.

7.2 Cymerodd cynrychiolwyr o Ysgol Uwchradd Ebbw Fawr, Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Uwchradd y Drenewydd, Prosiect Delwedd Iach, Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, Coleg Caerdydd a'r Fro, a Fforwm Ieuenctid y Fro ran yn y sgwrs ar y we.