Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/01/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

(09.30-10.30)

2.

Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion: Sesiwn dystiolaeth gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi

Chris Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru (Dros Dro) – Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM

Amanda Corrigan, Llywodraethwr Carchar EM Abertawe

Janet Wallsgrove, Llywodraethwr Carchar EM Parc

 

Briff ymchwil

Papur 1 - Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi.

2.2 Cytunodd cynrychiolwyr Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi i ddarparu copi o'r Strategaeth Pobl Hŷn i'r Pwyllgor ac i ddarparu gwybodaeth am gyllid gofal iechyd am bob person yng ngharchardai Cymru.

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

(10.30-10.40)

4.

Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

(10.45-11.30)

5.

Adolygiad ar y cyd o Drefniadau Llywodraethu Ansawdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: Sesiwn friffio ffeithiol gyda Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Dave Thomas, Swyddfa Archwilio Cymru

Rhys Jones, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Erica Hawes, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

 

Papur 2 - Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

 

Adroddiad Annibynnol ar y modd yr ymdriniwyd ag Adroddiad y Fydwraig Ymgynghorol ar Secondiad ynghylch Gwasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Awdur: Steve Combe, Cynghorydd Annibynnol ar Lywodraethu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ffeithiol gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

(11.30-11.45)

6.

Iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru

Papur 3 – Iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu

Adroddiad – Iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Ionawr.

(11.45-12.00)

7.

Deintyddiaeth yng Nghymru: Rhaglen Ddiwygio Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol 2019

Papur 4 - Rhaglen Ddiwygio Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor Raglen Diwygio Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol 2019 a chytunwyd ar y dull gweithredu.

(12.00-12.15)

8.

Cyfarwyddyd Gweinidogol – Trefniadau pensiwn y GIG ar gyfer 2019/20

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor Gyfarwyddyd y Gweinidog – trefniadau pensiwn y GIG ar gyfer 2019/20 a chytunwyd ar y dull gweithredu.