Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/11/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
(09.30-10.15) |
Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn yr ystâd carchardai i oedolion: Sesiwn dystiolaeth gyda Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Jackie Davies, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ym
Mhen-y-bont ar Ogwr, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Y Cyngnorydd Huw David, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol
Pen-y-bont ar Ogwr Briff ymchwil Papur 1 - Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. |
|
(10.25-11.10) |
Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn yr ystâd carchardai i oedolion: Sesiwn dystiolaeth gyda byrddau iechyd lleol Rob Smith, Cyfarwyddwr Ardal y Dwyrain, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr Rob Lightburn, Dirprwy Bennaeth Gofal Iechyd, CEM Berwyn,
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Alan Lawrie, Cyfarwyddwr Iechyd Sylfaenol, Iechyd
Cymunedol ac Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg Carmel Donovan, Rheolwr Gwasanaeth Cymunedau Integredig,
Bwrdd Iechyd Prifysgol Carmel Donovan Papur 2 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Papur 3 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr byrddau iechyd lleol. 3.2
Cytunodd cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i ddarparu manylion am; Ø i ba raddau y mae achosion o oedi a
chanslo hebryngwyr o HMP Parc i apwyntiadau gofal iechyd allanol yn cael eu
monitro yn erbyn safonau amseroedd aros cenedlaethol ar gyfer diagnosteg a
thriniaeth gan y gwasanaethau iechyd; Ø yr oedi wrth drosglwyddo cleifion
i'r ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, ac a yw HMP Parc yn cydymffurfio â
chanllawiau trosglwyddo cyfredol; ac Ø unrhyw sicrwydd y gall y Bwrdd
Iechyd ei roi i ddangos ei fod yn gweithio gyda'r gwasanaeth carchardai i
sicrhau diogelwch staff gofal iechyd sy'n gweithio yng Ngharchar EM y Parc. |
|
(11.20-12.05) |
Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn yr ystâd carchardai i oedolion: Sesiwn dystiolaeth gyda byrddau iechyd lleol Alison Ryland, Uwch-nyrs/Rheolwr Gofal Iechyd ym maes Gofal Sylfaenol,
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Dr Mair Strinati, Cyfarwyddwr Clinigol Grwpiau Agored i Niwed,
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Dr Anjula Mehta, Meddyg Teulu a Chyfarwyddwr Dros Dro
Gwasanaethau Iechyd Sylfaenol a Chymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe Emily Dibdin, Arweinydd Clinigol ar gyfer Amgylcheddau
Diogel a Chamddefnyddio Sylweddau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe Papur 4 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Papur 5 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe Papur 6 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr
byrddau iechyd lleol. |
|
(12.05) |
Papurau i’w nodi |
|
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Nododd y
Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Gweinidog Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch Cynllun Pensiynau’r GIG Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.2 Nododd y
Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.3 Nododd y
Pwyllgor y llythyr. |
||
(12.05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a’r cyfarfodydd ar 27 Tachwedd (ar gyfer digwyddiad anffurfiol i randdeiliaid ar ddarparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion), ac ar 05 Rhagfyr 2019 (ar gyfer blaen-gynllunio rhaglen waith) Cofnodion: 6.1 Cytunodd y
Pwyllgor i’r cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a’r cyfarfodydd ar
27 Tachwedd (ar gyfer digwyddiad anffurfiol i randdeiliaid ar ddarparu gofal
iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion), ac ar 5 Rhagfyr
2019 (ar gyfer blaen-gynllunio rhaglen waith). |
|
(12.05-12.20) |
Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn yr ystâd carchardai i oedolion: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12.30-14.30) |
Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â gofalwyr: Lansio'r adroddiad (lleoliad allanol) Cofnodion: 8.1
Lansiodd y Pwyllgor ei adroddiad, 'Gofalu am ein dyfodol: Ymchwiliad i effaith
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â
gofalwyr’. |