Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/02/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2  Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns AC, a dirprwyodd Darren Millar AC ar ei rhan.

1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AC.

 

 

 

(09.30 - 11.00)

2.

Gofal Iechyd Gwledig: Sesiwn Dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru

 

Briff Ymchwil

Papur gan y Ganolfan am Ragoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig, Prifysgol Aberystwyth, ar Brexit a phenderfynyddion iechyd gwledig (Saesneg yn unig)

Papur 1 – Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r hyn a ganlyn:

·         Ffigurau ar nifer y lleoedd sydd ar gael eleni o ran cydweithrediad Caerdydd Bangor.

·         Manylion effaith y rhaglen Iechyd Gwledig ac Anghysbell mewn Addysg Feddygol. (RRHIME).

·         Asesiad o sgiliau iaith Gymraeg presennol gweithlu'r GIG a'i ddisgwyliad o ran niferoedd yn y dyfodol.

 

 

(11.00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o'r cyfarfod ar 7 Mawrth 2019

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a’r cyfarfod ar 7 Mawrth 2019, pan fydd y Pwyllgor yn lansio ei adroddiad ar Weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc.

 

 

 

(11.00- 11.15)

4.

Gofal Iechyd Gwledig: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.