Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Claire Morris
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/12/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle AC. |
||
(09.30 - 10.00) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 6 - Alcohol Concern Cymru Dr Richard Piper, Prif Weithredwr, Alcohol Research UK Andrew Misell, Cyfarwyddwr, Alcohol Concern Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Alcohol Concern
Cymru. 2.2 Cytunodd Andrew Misell a Dr Richard Piper i ddarparu’r canlynol i’r
Pwyllgor: - nifer yr unigolion sy’n derbyn triniaeth cymorth alcohol yng Nghymru; - y grŵp oedran sydd fwyaf tebygol o fod yn aml-ddefnyddio alcohol a
chyffuriau. |
|
(10.05 - 10.50) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 7 – Byddin yr Iachawdwriaeth a Barnardo's Lynden Gibbs, Byddin yr Iachawdwriaeth Tim Ruscoe, Swyddog Materion Cyhoeddus Cymru, Barnardo’s Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fyddin yr
Iachawdwriaeth a Barnardo’s. |
|
Papurau i'w nodi |
||
Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) - Gwybodaeth ychwanegol gan Chris Snowdon, Sefydliad Materion Economaidd Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Chris Snowdon, y
Sefydliad Materion Economaidd. |
||
Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynglŷn â chyllideb drafft 2018-19 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros
Gyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch y gyllideb ddrafft 2018-19. |
||
Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) - Gwybodaeth ychwanegol gan Yr Athro Stockwell, Prifysgol Victoria Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.3a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan yr Athro Stockwell,
Prifysgol Victoria. |
||
Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)l - Crynodeb o waith gaiff ei chynnal gan Dîm Allgymorth y Cynulliad Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.4a Nododd y Pwyllgor y crynodeb o’r gwaith a wnaed gan Dîm Allgymorth y
Cynulliad Cenedlaethol. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(10.50 - 11.00) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) - ystyried y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitemau 2 a 3 y
cyfarfod. |
|
(11.00 - 11.15) |
Blaenraglen Waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith ar gyfer dechrau 2018, a
chytunodd arni. |