Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/11/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC, Julie Morgan AC ac Angela Burns AC a dirprwyodd Suzy Davies AC ar ran Angela Burns AC.

 

(09.30 - 11.30)

2.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 - sesiwn dystiolaeth 1 - Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Huw Irranca-Davies AC, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant a'u swyddogion.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i roi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor i egluro a yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn caniatáu cyfuno o ffynonellau eraill mewn ffordd debyg i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

2.3 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor yn amlinellu'r cynigion y mae wedi eu cymeradwyo ynghylch sut y bydd byrddau iechyd yn defnyddio'r buddsoddiad ychwanegol i leihau amserau aros.

 

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Defnyddio meddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - Gwybodaeth ychwanegol gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru mewn perthynas â'r ymchwiliad i ddefnyddio meddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal.

 

3.2

Defnyddio meddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - Gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan mewn perthynas â'r ymchwiliad i ddefnyddio meddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal.

 

3.3

Defnyddio meddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - Gwybodaeth ychwanegol gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd a Choleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3a ​​Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd a Choleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol mewn perthynas â'r ymchwiliad i'r defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal.

 

3.4

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynghylch amseroedd aros canser

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon o ran amseroedd aros canser.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.30 - 11.45)

5.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 - Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitem 2 y cyfarfod.