Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sian Thomas 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.45 - 11.30)

2.

Craffu ar Gyllideb Llywodraeth Cymru 2017-18 – Sesiwn graffu ariannol canol blwyddyn - Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd

Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid, Iechyd

Albert Heaney, Cyfarwyddwr, Iechyd Cymdeithasol ac Integreiddio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

2.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor yn amlinellu'r cynnydd a wnaed o ran y cynlluniau peilot ynghylch y rhaglen ar y ddeddf gofal gwrthgyfartal sydd ar y gweill ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

 

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd - gwybodaeth ychwanegol gan Gydffederasiwn GIG Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Gydffederasiwn y GIG.

 

3.2

Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynglŷn â chraffu ar y gyllideb ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch craffu ar y gyllideb ddrafft.

 

3.3

Ymchwiliad i ofal sylfaenol - gwybodaeth ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3a ​​Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfodydd ar 5 Gorffennaf a 13 Gorffennaf.

·         Ar 5 Gorffennaf, er mwyn trafod blaenraglen waith y Pwyllgor.

·         Ar 13 Gorffennaf, er mwyn trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar ofal sylfaenol

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.30 - 11.45)

5.

Craffu ar Gyllideb Llywodraeth Cymru 2017-18 - Sesiwn graffu ariannol canol blwyddyn – trafod y dystiolaeth.

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet, y Gweinidog a'u swyddogion.