Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sian Thomas
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr
Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Jayne Bryant AC a Julie Morgan AC. |
||
(09.30 - 10.15) |
Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd - sesiwn dystiolaeth 1 - Yr Athro Vanessa Burholt a Dr Deborah Morgan Yr Athro Vanessa Burholt, Y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia a'r
Ganolfan Heneiddio Arloesol, Prifysgol Abertawe Dr Deborah Morgan, y Ganolfan
Ymchwil Heneiddio a Dementia a'r Ganolfan Heneiddio Arloesol, Prifysgol
Abertawe Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Vanessa Burholt a Dr
Deborah Morgan. |
|
(10.20 - 11.05) |
Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd - sesiwn dystiolaeth 2 - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 3.2 Cytunodd y Comisiynydd i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda'i barn am yr hyn
y dylid ei gynnwys yn strategaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru i fynd i'r
afael ag unigrwydd ac unigedd. |
|
(11.15 - 12.00) |
Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd - sesiwn dystiolaeth 2 - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Rachel Lewis, Age Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Age Cymru. |
|
(12.05 - 12.50) |
Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd - sesiwn dystiolaeth 4 - Y Samariaid a Campaign to End Loneliness Emma Harris, Swyddog Polisi a Chyfathrebu, Y Samariaid Sarah Stone, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru, Y Samariaid Dr Kellie Payne, Rheolwr
Polisi ac Ymchwil, Campaign to End Loneliness Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o'r Samariaid a'r Campaign to
End Loneliness. 5.2
Cytunodd y Samariaid i ddarparu rhagor o wybodaeth am arolwg diweddar gan y
Gymdeithas Frenhinol Iechyd Cyhoeddus ar effaith cyfryngau cymdeithasol ar
lesiant meddyliol pobl ifanc. Gwnaethant hefyd gytuno i roi rhagor o wybodaeth
am gost hunanladdiad, yn nhermau ariannol ac emosiynol. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(12.50 - 13.00) |
Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitemau 2, 3, 4 a
5 y cyfarfod. |
|
(13.30 - 14.15) |
Ymchwiliad i recriwtio meddygol - trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Bu'r Pwyllgor yn ystyried drafft cyntaf yr adroddiad ar ei ymchwiliad i
recriwtio meddygol. |