Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sian Thomas 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Jayne Bryant AC a Julie Morgan AC.

 

(09.30 - 10.15)

2.

Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd - sesiwn dystiolaeth 1 - Yr Athro Vanessa Burholt a Dr Deborah Morgan

Yr Athro Vanessa Burholt, Y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia a'r Ganolfan Heneiddio Arloesol, Prifysgol Abertawe

Dr Deborah Morgan, y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia a'r Ganolfan Heneiddio Arloesol, Prifysgol Abertawe

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Vanessa Burholt a Dr Deborah Morgan.

 

(10.20 - 11.05)

3.

Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd - sesiwn dystiolaeth 2 - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

3.2 Cytunodd y Comisiynydd i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda'i barn am yr hyn y dylid ei gynnwys yn strategaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd.

 

(11.15 - 12.00)

4.

Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd - sesiwn dystiolaeth 2 - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Rachel Lewis, Age Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Age Cymru.

 

(12.05 - 12.50)

5.

Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd - sesiwn dystiolaeth 4 - Y Samariaid a Campaign to End Loneliness

Emma Harris, Swyddog Polisi a Chyfathrebu, Y Samariaid

Sarah Stone, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru, Y Samariaid

Dr Kellie Payne, Rheolwr Polisi ac Ymchwil, Campaign to End Loneliness

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o'r Samariaid a'r Campaign to End Loneliness.

5.2 Cytunodd y Samariaid i ddarparu rhagor o wybodaeth am arolwg diweddar gan y Gymdeithas Frenhinol Iechyd Cyhoeddus ar effaith cyfryngau cymdeithasol ar lesiant meddyliol pobl ifanc. Gwnaethant hefyd gytuno i roi rhagor o wybodaeth am gost hunanladdiad, yn nhermau ariannol ac emosiynol.

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(12.50 - 13.00)

7.

Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitemau 2, 3, 4 a 5 y cyfarfod.

 

(13.30 - 14.15)

8.

Ymchwiliad i recriwtio meddygol - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Bu'r Pwyllgor yn ystyried drafft cyntaf yr adroddiad ar ei ymchwiliad i recriwtio meddygol.