Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sian Thomas 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 380KB) Gweld fel HTML (206KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhun ap Iorwerth AC. Roedd Bethan Jenkins AC yn dirprwyo ar ran Rhun.

 

(09.30 - 11.00)

2.

Ymchwiliad i recriwtio meddygol - sesiwn dystiolaeth 10 - Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol

Julie Rogers, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, y Prif Swyddog Meddygol a Chyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol.

2.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i roi rhifau i'r Pwyllgor o'r cylch cyntaf o leoedd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu.

 

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Llythyr gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - gwelliannau cyfnod 2

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

3.2

Llythyr gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar gyfnod 1 y Bil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitem 1 o'r cyfarfod ar 23 Mawrth 2017

23 Mawrth, er mwyn ystyried:

·         Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd - paratoi i gymryd tystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.00 - 11.30)

5.

Ymchwiliad i recriwtio meddygol – trafod y dystiolaeth a'r materion allweddol sy'n deillio o'r gwaith craffu

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol a ddaeth i'r amlwg yn ystod gwaith craffu ei ymchwiliad i recriwtio meddygol cyn iddo baratoi ei adroddiad drafft.

 

(11.30 - 12.00)

6.

Ymchwiliad i strategaeth genedlaethol ddrafft Llywodraeth Cymru ar ddementia - trafod y cynnyrch drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion sydd wedi codi yn ystod y gwaith o graffu ar strategaeth genedlaethol ddrafft Llywodraeth Cymru ar ddementia cyn paratoi ei lythyr drafft at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.