Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sian Thomas 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 782KB) Gweld fel HTML (492KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i recriwtio meddygol - sesiwn dystiolaeth 1 - yr Athro Robin Williams

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Robin Williams.

 

(10.45 - 11.45)

3.

Ymchwiliad i recriwtio meddygol - sesiwn dystiolaeth 2 - Panel hyfforddeion

Dr Llion Davies

Dr Zahid Khan

Dr Abby Parish

Dr Bethan Roberts

Dr Huw Lloyd Williams

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Llion Davies, Dr Zahid Khan, Dr Abby Parish, Dr Bethan Roberts a Dr Huw Lloyd Williams.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5.

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.45 - 12.30)

5.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - trafod yr adroddiad drafft (1)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a'i dderbyn yn amodol ar fân newidiadau.

 

(13.00 - 13.45)

6.

Ymchwiliad i strategaeth genedlaethol ddrafft Llywodraeth Cymru ar ddementia - sesiwn dystiolaeth 5 - Cydffederasiwn y GIG

Lin Slater, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dr Suzanne Wood, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Nick Johnson, Arbenigwr Hwyluso Gofal Dementia, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Cecilia Carpenter, Prif Nyrs yr Uned Feddygol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gydffederasiwn y GIG.

 

(14.00 - 14.45)

7.

Ymchwiliad i strategaeth genedlaethol ddrafft Llywodraeth Cymru ar ddementia - sesiwn dystiolaeth 6 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol

Neil Ayling, Prif Swyddog, Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Fflint a Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Julie Boothroyd, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion Sir Fynwy, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

8.

Papurau i’w nodi

8.1

Gwaith craffu Cyfnod 1 ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiynydd Plant Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1a Nododd y Pwyllgor nodi'r wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru.

 

8.2

Gwaith craffu Cyfnod 1 ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Gwybodaeth ychwanegol gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

8.3

Gwaith craffu Cyfnod 1 ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Gwybodaeth ychwanegol gan Goleg Brenhinol y Meddygon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.3a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Goleg Brenhinol y Meddygon.

 

8.4

Gwaith craffu Cyfnod 1 ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Gwybodaeth ychwanegol gan Crohn’s and Colitis UK

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.4a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Crohn's and Colitis UK.

 

9.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

9.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(14.45 - 15.00)

10.

Ymchwiliad i strategaeth genedlaethol ddrafft Llywodraeth Cymru ar ddementia - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Gydffederasiwn y GIG, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol.