Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sian Thomas 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 833KB) Gweld fel HTML (335KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhun ap Iorwerth AC.

 

(09.00 - 10.30)

2.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 7 – y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Chris Tudor-Smith, Uwch-swyddog Cyfrifol

Rhian Williams, Gwasanaethau Cyfreithiol

Chris Brereton, Prif Swyddog Iechyd yr Amgylchedd

Sue Bowker, Cangen Polisi Tybaco

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog a'i swyddogion.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r hyn a ganlyn:

        nodyn yn rhoi manylion hawl ymarferwyr i wrthod tyllu person sy'n iau na 18 oed mewn man personol pan fo cyfyngiadau cyfreithiol ond yn gymwys ar gyfer y rheiny sy'n iau nag 16 oed, ynghyd â'r goblygiadau posibl i ymarferwyr o'r fath, boed yn oblygiadau cyfreithiol neu oblygiadau eraill;

        manylion pellach ynghylch y troseddau perthnasol a amlinellwyd yn adran 63(3) y Bil, a'r diffyg yn y Bil fel y mae ar hyn o bryd o ran crybwyll troseddau rhyw;

        copi o'i llythyr at BMA Cymru, a anfonwyd ym mis Rhagfyr 2016, a oedd yn mynd i'r afael â'u pryderon ynghylch gwasanaethau fferyllol ac Asesiadau Anghenion Fferyllol.

 

(10.35 - 11.35)

3.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 8 - Coleg Brenhinol y Meddygon

Dr Olwen Williams FRCP, Coleg Brenhinol y Meddygon

Lowri Jackson, Coleg Brenhinol y Meddygon

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Goleg Brenhinol y Meddygon.

 

(11.40 - 12.10)

4.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 9 - ASH Cymru

Suzanne Cass, Prif Weithredwr, ASH Cymru

Dr Steven Macey, Swyddog Ymchwil a Pholisi, ASH Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o ASH Cymru.

 

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ynghylch Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2015-16

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ynghylch Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus  Cymru ar gyfer 2015-16.

 

5.2

Gohebiaeth gan Rwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc ynghylch sgrinio rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Rwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc ynghylch sgrinio rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn plant

 

5.3

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Llesiant a Chwaraeon ynghylch gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Llesiant a Chwaraeon ynghylch gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

 

5.4

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynghylch sefydlu Addysg Iechyd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynghylch sefydlu Addysg Iechyd Cymru.

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(12.10 - 12.20)

7.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 7, 8 a 9 – ystyried y dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr ac ASH Cymru.

 

(12.20 - 12.30)

8.

Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd - ystyried cwmpas yr ymchwiliad a'r dull gweithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl terfynol ar gyfer ei ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd, a chytunodd i ymgynghori'n eang.