Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sian Thomas
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 833KB) Gweld fel HTML
(335KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhun ap Iorwerth AC. |
||
(09.00 - 10.30) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 7 – y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Chris Tudor-Smith, Uwch-swyddog Cyfrifol Rhian Williams, Gwasanaethau Cyfreithiol Chris Brereton, Prif Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Sue Bowker, Cangen Polisi Tybaco Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog a'i swyddogion. 2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r hyn a ganlyn: • nodyn yn rhoi manylion hawl
ymarferwyr i wrthod tyllu person sy'n iau na 18 oed mewn man personol pan fo
cyfyngiadau cyfreithiol ond yn gymwys ar gyfer y rheiny sy'n iau nag 16 oed,
ynghyd â'r goblygiadau posibl i ymarferwyr o'r fath, boed yn oblygiadau cyfreithiol
neu oblygiadau eraill; • manylion pellach ynghylch y
troseddau perthnasol a amlinellwyd yn adran 63(3) y Bil, a'r diffyg yn y Bil
fel y mae ar hyn o bryd o ran crybwyll troseddau rhyw; • copi o'i llythyr at BMA
Cymru, a anfonwyd ym mis Rhagfyr 2016, a oedd yn mynd i'r afael â'u pryderon
ynghylch gwasanaethau fferyllol ac Asesiadau Anghenion Fferyllol. |
|
(10.35 - 11.35) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 8 - Coleg Brenhinol y Meddygon Dr Olwen Williams FRCP, Coleg Brenhinol y Meddygon Lowri Jackson, Coleg Brenhinol y Meddygon Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Goleg Brenhinol y Meddygon. |
|
(11.40 - 12.10) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 9 - ASH Cymru Suzanne Cass, Prif Weithredwr, ASH Cymru Dr Steven Macey, Swyddog Ymchwil a Pholisi, ASH Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o ASH Cymru. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ynghylch Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2015-16 Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau ynghylch Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer
2015-16. |
||
Gohebiaeth gan Rwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc ynghylch sgrinio rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn plant Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Rwydwaith Diabetes Cymru i Blant a
Phobl Ifanc ynghylch sgrinio rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn plant |
||
Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Llesiant a Chwaraeon ynghylch gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg,
Llesiant a Chwaraeon ynghylch gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng
Nghymru |
||
Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynghylch sefydlu Addysg Iechyd Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd,
Llesiant a Chwaraeon ynghylch sefydlu Addysg Iechyd Cymru. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(12.10 - 12.20) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 7, 8 a 9 – ystyried y dystiolaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog, Coleg
Brenhinol y Ffisigwyr ac ASH Cymru. |
|
(12.20 - 12.30) |
Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd - ystyried cwmpas yr ymchwiliad a'r dull gweithredu Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl terfynol ar gyfer ei ymchwiliad
i unigrwydd ac unigedd, a chytunodd i ymgynghori'n eang. |