Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 429KB) Gweld fel HTML (245KB)

(09.15 - 11.15)

1.

Paratoi ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017/18

Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, Cyfarwyddwr Ymchwil Economeg Iechyd, Prifysgol Bangor

 

Cofnodion:

1.1 Clywodd y Pwyllgor gan yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, Cyfarwyddwr Ymchwil Economeg Iechyd, Prifysgol Bangor, fel rhan o'i baratoadau ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18.

 

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(11.30 - 13.00)

3.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / Prif Weithredwr GIG Cymru

Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid

Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon; Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru; Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid; ac Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(13.00 - 13.20)

5.

Trafod y dystiolaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cofnodion:

5.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

5.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r Cadeirydd, yn dilyn y sesiwn hon, yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn gofyn rhai cwestiynau ychwanegol a gwneud rhai sylwadau ychwanegol ynghylch y gyllideb ddrafft.

 

(14.00 - 15.00)

6.

Sesiwn friffio dechnegol ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Dr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol

Chris Tudor-Smith, Uwch-swyddog Cyfrifol

Chris Brereton, Prif Swyddog Iechyd Amgylcheddol

Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) gan Dr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol, Chris Tudor-Smith, yr Uwch Swyddog Cyfrifol, Chris Brereton, Prif Swyddog Iechyd yr Amgylchedd ac Andrew Evans, y Prif Swyddog Fferyllol.