Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 283KB) Gweld
fel HTML (141KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
||
(09.30 - 10.30) |
Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 - sesiwn dystiolaeth gyda Fforwm Gofal Cymru Mario Kreft, Cadeirydd, Fforwm Gofal Cymru Mary Wimbury, Uwch Gynghorwr Polisi, Fforwm Gofal Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fforwm Gofal Cymru. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â chamau dilynol o gyfarfod 15 Medi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd,
Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer eitem 1 o’r cyfarfod ar 3 Tachwedd i baratoi i graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2017/18 Cofnodion: 4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(10.30 - 10.45) |
Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 – trafod y dystiolaeth a roddwyd yn ystod y cyfarfod heddiw ac yn y cyfarfodydd ar 29 Medi a 5 Hydref Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor yr holl dystiolaeth a gafwyd mewn perthynas â'r
ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf, a chytunodd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon cyn y sesiwn
dystiolaeth gydag ef ar 17 Tachwedd, yn amlinellu'r prif themâu sy'n codi. |
|
(10.45 - 10.55) |
Trafod deiseb P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Cafodd y Pwyllgor drafodaeth bellach ynghylch Deiseb P-04-682 y
Pwyllgor a chytunodd i ysgrifennu at Rwydwaith Diabetes Plant a Phobl Ifanc
Cymru i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y camau i wella'r canlyniadau ar
gyfer plant a phobl ifanc sydd â diabetes math 1 yng Nghymru. Cytunodd y
Pwyllgor y gallai'r ymateb gan y Rhwydwaith fod yn sail i lythyr at
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. 6.2 Hefyd, nododd y Pwyllgor astudiaeth sy'n mynd rhagddo yn yr Almaen i
ystyried a yw rhaglen sgrinio ar gyfer diabetes math 1 yn ymarferol ar draws
poblogaeth fawr, a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr i adolygu canlyniadau'r
astudiaeth pan fydd yn cael ei chwblhau yn 2017. |
|
(10.45 - 10.55) |
Trafod deiseb P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cafodd y Pwyllgor drafodaeth bellach ynghylch Deiseb P-04-532 a nododd
fod y Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol i'w adnewyddu yn 2017.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd,
Llesiant a Chwaraeon i ofyn am y diweddaraf ynghylch yr amcanion perthnasol a'r
camau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd. |
|
(10.55 - 11.00) |
Trafod y llythyr gan y Pwyllgor Busnes: Yr amserlen ar gyfer Bil Iechyd y Cyhoedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Busnes a nododd yr amserlen
arfaethedig. |