Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/07/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.00-11.00) |
Gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal: Trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1
Trafododd
y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunwyd ar fân newidiadau i'w hystyried yn y
cyfarfod nesaf. |
|
(11.10) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r
cyfarfod. 2.2
Cafwyd
ymddiheuriad gan Angela Burns AC ar gyfer sesiwn y bore. Roedd Darren Millar AC yn bresennol fel
dirprwy. 2.3
Dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Jayne
Bryant AC fod ei mam yn aelod o Gyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan. |
|
(11.10-12.40) |
Gwaith craffu cyffredinol: Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Ann Lloyd, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin
Bevan Judith Paget, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Aneurin Bevan Glyn Jones, Cyfarwyddwr Cyllid a Pherfformiad, Bwrdd
Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Martine Price, Cyfarwyddwr Interim Nyrsio, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Aneurin Bevan Briff Ymchwil Papur 1 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Cafodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. 3.2
Cytunodd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i roi’r manylion am ganran y premiwm
ariannol ar gyfer rhedeg practisau a reolir os caiff costau locwm eu heithrio
(h.y. pe bai meddygon yn cael eu cyflogi mewn swyddi parhaol). 3.3
Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu gyda'r cwestiynau nas cyrhaeddwyd. |
|
(13.15-14.45) |
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething
AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Sioned Rees, Uwch
Swyddog Cyfrifol, Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu)
(Cymru), Llywodraeth Cymru Janet Davies,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Y Grŵp
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru Sapna Lewis,
Cyfreithwraig, Llywodraeth Cymu Bil
Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), fel y’i cyflwynwyd Briff Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1
Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. 4.2
Cytunodd y
Gweinidog i roi manylion i'r Pwyllgor am ddatblygiadau polisi pellach mewn meysydd
yn y Papur Gwyn na chafodd eu cynnwys yn y Bil. 4.3
Cytunodd y
Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor yn nodi'r meysydd yn y Bil lle mae'n
disgwyl darparu canllawiau, a disgrifiad o'r hyn y mae'n disgwyl i'r canllawiau
hynny ei gwmpasu. |
|
(14.45) |
Papurau i’w nodi |
|
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch adolygiad barnwrol yr Alban ar erthyliad meddygol cynnar yn y cartref Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1
Nododd y
Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.2
Nododd y
Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.3
Nododd y
Pwyllgor y llythyr. |
||
(14.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn Cofnodion: |
|
(14.45-14.55) |
Gwaith craffu cyffredinol ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1
Trafododd
y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |
|
(14.55-15.05) |
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 8.1
Trafododd
y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |