Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Claire Morris
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/02/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau
i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns AC, a
dirprwyodd Darren Millar AC ar ei rhan. 1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AC. |
|
(09.30 - 11.00) |
Gofal Iechyd Gwledig: Sesiwn Dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru,
Llywodraeth Cymru Briff Ymchwil Papur gan y Ganolfan
am Ragoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig, Prifysgol Aberystwyth, ar Brexit a
phenderfynyddion iechyd gwledig (Saesneg yn unig) Papur 1 –
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd
a Gwasanaethau Cymdeithasol. 2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r hyn a ganlyn: ·
Ffigurau ar
nifer y lleoedd sydd ar gael eleni o ran cydweithrediad Caerdydd Bangor. ·
Manylion
effaith y rhaglen Iechyd Gwledig ac Anghysbell mewn Addysg Feddygol. (RRHIME). ·
Asesiad o
sgiliau iaith Gymraeg presennol gweithlu'r GIG a'i ddisgwyliad o ran niferoedd
yn y dyfodol. |
|
(11.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o'r cyfarfod ar 7 Mawrth 2019 Cofnodion: 3.1
Cytunodd y Pwyllgor ar y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a’r
cyfarfod ar 7 Mawrth 2019, pan fydd y Pwyllgor yn lansio ei adroddiad ar Weithgarwch
corfforol ymhlith plant a phobl ifanc. |
|
(11.00- 11.15) |
Gofal Iechyd Gwledig: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |