Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/12/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC.

1.3 Datganodd Dai Lloyd AC ei fod ef a Julie Morgan AC yn aelodau o'r Grŵp Trawsbleidiol ar Ofal Lliniarol a Hosbisau.

1.4 Datganodd Angela Burns AC ei bod yn aelod pleidleisio o sefydliad Paul Sartori, sef system gofal cartref yn seiliedig ar hosbis yn Sir Benfro.

1.5 Datganodd Julie Morgan AC ei bod yn Is-lywydd yn Hosbis y Ddinas.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Sesiwn dystiolaeth gyda’r Grŵp Trawsbleidiol ar Hosbisau a Gofal Lliniarol

Mark Isherwood AC, Aelod o’r Grŵp Trawsbleidiol

Janet Finch-Saunders AC, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol

Catrin Edwards, Hospice UK

Kathleen Caper, Hospice UK

 

Briff Ymchwil

 

Grŵp Trawsbleidiol Hosbisiau a Gofal Lliniarol Ymchwiliad: Anghydraddoldebau mewn mynediad at ofal hosbis a lliniarol

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr y Grŵp Trawsbleidiol ar Ofal Lliniarol a'r Hosbis.

 

(10.40 - 12.10)

3.

Gofal Iechyd Gwledig: Sesiwn dystiolaeth gyda Dr John Wynn-Jones

Dr John Wynn-Jones, Cadeirydd y Gweithgor ar Feddygfeydd Gwledig

 

Briff Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr John Wynn-Jones.

3.2 Cytunodd Dr John Wynn-Jones i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am y cymorth ariannol sydd ei angen ar gyfer gofal iechyd gwledig. 

 

(12.10)

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â Gofalwyr: Gwybodaeth ychwanegol gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.

 

4.2

Deintyddiaeth yng Nghymru: Gwybodaeth Ychwanegol gan Gymdeithas Orthodontig Prydain am ffioedd ar gyfer cyrsiau orthodontig ôl-radd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.

 

4.3

Llythyr oddi wrth y Cyngor Meddygol Cyffredinol at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.4

Llythyr oddi wrth y Llywydd at Brif Weinidog Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.5

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.6

Nodyn cyngor cyfreithiol: Deddf Cydraddoldeb a gwahanu'r rhywiau mewn ysgol chwaraeon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.6 Nododd y Pwyllgor y nodyn cyngor cyfreithiol.

 

(12.10)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig.

 

(12.10 - 12.15)

6.

Hosbisau a Gofal Lliniarol: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.15 - 12.20)

7.

Gofal Iechyd Gwledig: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.20 - 12.30)

8.

Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â Gofalwyr: Trafod y dystiolaeth

Briff Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.