Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Amseriad disgwyliedig: Drafft 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/07/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2        Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

(09.30 - 11.00)

2.

Craffu cyffredinol: Sesiwn dystiolaeth gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru

Huw George, Dirprwy Brif Weithredwr, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau a Chyllid, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Quentin Sandifer, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus / Cyfarwyddwr Meddygol, Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd cynrychiolwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru i gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor a chytunodd i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol ganlynol yn ysgrifenedig:

  • Ffeithlun a ddefnyddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddelio â phrofiadau andwyol mewn plentyndod;
  • Manylion am waith gwydnwch a wneir mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed;
  • Yr adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymwneud â'r ffaith bod esgeulustod yn brofiad andwyol mewn plentyndod;
  • Manylion am sut caiff cyllid ei flaenoriaethu, gan gynnwys sut caiff gwariant rhaglen gwella iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei rannu ar draws cwrs bywyd;
  • Dadansoddiad o sut caiff staff eu dyrannu ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys y cydbwysedd rhwng rolau ymchwil a darparu;
  • P'un a oes manylion ar gael ar y nifer o bobl sy'n goroesi sepsis ond yn profi ansawdd bywyd is o ganlyniad;
  • Copi o adroddiad cynnydd perfformiad Iechyd Cyhoeddus Cymru;

Manylion am y gallu i ymateb i gynnydd disgwyliedig mewn sgrinio ar gyfer canser y coluddyn pan gaiff y Prawf Imiwnogemegol Ysgarthol (FIT) newydd ei gyflwyno.

(11.00)

3.

Papur(au) i'w nodi

3.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Blaenraglen waith: meysydd o ddiddordeb a rennir - 26 Mehefin 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr.

3.2

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: gwasanaethau y tu allan i oriau yng Nghymru - 26 Mehefin 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr.

(11.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(11.00 - 11.10)

5.

Craffu cyffredinol: Sesiwn dystiolaeth gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

(11.10 - 11.40)

6.

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd i gynnal ymchwiliad undydd i ddeintyddiaeth yng Nghymru ac ymchwiliad i'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â gofalwyr.