Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/06/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dai Lloyd AC, ac, fel y cytunwyd ar 23 Mai 2018, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, penodwyd Rhun ap Iorwerth yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn.

1.3        Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC hefyd.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Atal hunanladdiad: Sesiwn dystiolaeth â chynrychiolwyr Byrddau Iechyd Lleol a Iechyd Cyhoeddus Cymru

Nadine Morgan, Pennaeth Nyrsio Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Rhiannon Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol ac Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Will Beer, Meddyg Ymgynghorol ym maes Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Su Mably, Meddyg Ymgynghorol ym maes Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Briff Ymchwil

Papur 1 – Conffederasiwn GIG Cymru

Papur 2 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Papur 3 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Papur 4 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Papur 5 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Papur 6 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Papur 7 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Papur 8 – Partneriaeth Cynllunio a Datblygu Iechyd Meddwl Powys a Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Powys

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fyrddau Iechyd Lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

2.2 Cytunodd Nadine Morgan i roi enghreifftiau o arfer gorau o ran hyfforddiant staff. Cytunodd Rhiannon Jones, Will Beer a Nadine Morgan i roi data ar gyfran y cleifion a welir o fewn pum diwrnod yn unol â chynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ar gyfer 2016-19.

 

(10.35 - 11.10)

3.

Atal hunanladdiad: Sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr y gwasanaethau brys

Y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jonathan Drake (Heddlu De Cymru), Prif Swyddog Arweiniol Cymru ym maes Iechyd Meddwl, Grŵp Prif Swyddogion Cymru

Alison Kibblewhite, Pennaeth Lleihau Risg, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Bleddyn Jones, Pennaeth Gorsaf, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

 

Papur 9 – Uned Cyswllt yr Heddlu

Papur 10 – Heddlu De Cymru - Trafnidiaeth

Papur 11 – Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Papur 12 – Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Papur 13 – Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o wasanaethau brys.

 

(11.15 - 12.00)

4.

Atal hunanladdiad: Sesiwn dystiolaeth ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Claire Bevan, Cyfarwyddwr Ansawdd, Diogelwch, Profiad Cleifion a Nyrsio, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Stephen Clarke, Pennaeth Iechyd Meddwl, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Nigel Rees, Pennaeth Ymchwil ac Arloesedd, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

 

Papur 14

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

 

 

(12.45 - 13.25)

5.

Atal hunanladdiad: Sesiwn dystiolaeth â Gwasanaeth Carchardai a Gwasanaeth Prawf EM

Kenny Brown, Cyfarwyddwr Carchardai Sector Cyhoeddus yn Ne Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth EM

Sophie Lozano, Arweinydd Diogelwch Grŵp Carchardai, Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth EM

 

Papur 15

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Wasanaethau Carchardai a Phrofiannaeth EM.

5.2 Cytunodd Kenny Brown i ystyried ymhellach nifer yr achosion o hunanladdiad ymhlith troseddwyr yng Nghymru y nodwyd eu bod 'mewn perygl' ac yn cael eu rheoli o dan weithdrefnau Asesu, Gofal yn y Ddalfa a Gwaith Tîm (ACCT) ac i ysgrifennu at y Pwyllgor.

 

 

(13.30 - 14.10)

6.

Atal hunanladdiad: Sesiwn dystiolaeth â Network Rail

Ian Stevens, Rheolwr Rhaglen - Atal Hunanladdiad, Network Rail

Yr Uwch-arolygydd Mark Cleland, Heddlu Trafnidiaeth Prydain

 

Papur 16

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Network Rail.

6.2 Cytunodd yr Uwch-arolygydd Mark Cleland i roi enghreifftiau o astudiaethau achos lle roedd dull amlasiantaethol, gan gynnwys Network Rail, wedi bod yn llwyddiannus.

 

(14.10)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

7.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(14.10 - 14.20)

8.

Atal hunanladdiad: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.