Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Claire Morris
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/11/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Angela Burns AC. |
||
(09.30-10.15) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 1 - Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd y byrddau iechyd Dr Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd
Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Fiona Kinghorn, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus,
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Conrad Eydmann, Pennaeth Strategaeth a Chomisiynu
Partneriaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Dr Julie Bishop, Cyfarwyddwr Gwella Iechyd, Ymddiriedolaeth
GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru
a Chyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd y byrddau iechyd. 2.2 Cytunodd Julie Bishop i roi gwybodaeth am adeg pan fyddai gweithwyr proffesiynol ym maes
iechyd y cyhoedd yn gyfforddus â’r cydbwysedd rhwng fforddiadwyedd a faint y
mae pobl yn ei yfed. |
|
(10.20 - 11.05) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 2 - BMA Cymru, Coleg Brenhinol y Meddygon a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion Dr David Bailey, BMA Cymru Dr Ruth Alcolado, Coleg Brenhinol y Meddygon Dr Ranjini Rao, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr BMA Cymru, Coleg
Brenhinol y Meddygon a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion. |
|
(11.15 - 12.00) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 3 - Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru David Riley, Cadeirdydd Penaethaid Safonau Masnach Cymru,
a Phennaeth Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd yn Ynys Môn David Jones, Cydlynydd Cenedlaethol, Safonau Masnach
Cymru Simon Wilkinson, Swyddog Polisi, Cymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Cyfarwyddwyr Diogelu'r
Cyhoedd Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. 4.2 Cytunodd Simon Wilkinson i archwilio ffyrdd
gwahanol/ychwanegol o gryfhau’r agenda rheoli alcohol yng Nghymru ac i baratoi
nodyn i’r Pwyllgor, os oedd hynny’n briodol.
|
|
Papurau i'w nodi |
||
Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) - llythyr gan y Pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â gwaith craffu cyfnod 1 Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor at
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â
gwaith craffu cyfnod 1. |
||
Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) - llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â gwaith craffu cyfnod 1 Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd,
Llesiant a Chwaraeon ynglŷn â gwaith craffu cyfnod 1. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(12.00 - 12.15) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Pris Isaf am Alcohol) (Cymru) - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod eitemau 2, 3 ac 4
o'r cyfarfod. |