Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

2.

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 779KB) Gweld fel HTML (424KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Dawn Bowden AC a Julie Morgan AC.

 

(09.30 - 10.15)

2.

Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - sesiwn dystiolaeth 9 - Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol a Choleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith

Karin Orman, Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol  

Dr Alison Stroud, Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith

Beth Bowen, Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol a Choleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd.

 

(10.20 - 10.50)

3.

Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - sesiwn dystiolaeth 10 - Fforwm Gofal Cymru

Melanie Minty, Fforwm Gofal Cymru

Steven Ford, Fforwm Gofal Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fforwm Gofal Cymru.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.50 - 11.20)

5.

Ymchwiliad i weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc - adfywio'r ymchwiliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cynhaliodd y Pwyllgor drafodaethau ychwanegol ar ei ymchwiliad i weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc a chytunodd i wahodd rhanddeiliaid i sesiynau casglu tystiolaeth yn ystod tymor y gwanwyn.

 

(11.35 - 12.05)

6.

Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - sesiwn dystiolaeth 11 - Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

David Francis, Prif Arolygydd Cynorthwyol, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

6.2 Cytunodd David Francis i roi dadansoddiad i'r Pwyllgor o nifer y cartrefi gofal yng Nghymru yr oedd AGGCC wedi'u cau oherwydd eu bod yn darparu gwasanaethau gwael.

 

(12.45 - 13.30)

7.

Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - sesiwn dystiolaeth 12 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Mr John Palmer, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Mrs Kim Williams, Seicolegydd Ymgynghorol Iechyd Meddwl Pobl Hŷn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Victoria Gimson, Fferyllydd Iechyd Meddwl Arbenigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Candace Rowlands, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

 

(13.35 - 14.20)

8.

Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - sesiwn dystiolaeth 13 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Claire Aston, Nyrs Rhanbarthol / Pennaeth Gofal Cymhleth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dr Chineze Ivenso, Seiciatrydd Ymgynghorol Hen Oed (Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Casnewydd), Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Sarah Isaac, Uwch Reolwr Fferyllydd - Gofal Sylfaenol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Sue Stephens, Ymgynghorydd Rhagnodi, Bwrdd Iechyd Prfysgol Hywel Dda

 

Cofnodion:

8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

8.2 Cytunodd Dr Chineze Ivenso i roi i'r Pwyllgor ganfyddiadau archwiliadau 2017, hyd yma, i'r defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig gyda chleifion â dementia sy'n byw mewn cartrefi gofal ym mwrdeistref Casnewydd.

8.3 Cytunodd y ddau Fwrdd Iechyd i ysgrifennu at y Pwyllgor yn nodi pa ddata ar ragnodi meddyginiaethau gwrthseicotig y dylid eu casglu yn genedlaethol, yn eu barn hwy, er mwyn galluogi byrddau iechyd i feincnodi â'i gilydd ac â safonau NICE.

 

9.

Papurau i’w nodi

9.1

Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - gwybodaeth ychwanegol gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru mewn cysylltiad â'r ymchwiliad i'r defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal.

 

9.2

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynglŷn â'r ymchwiliad y mae'r Pwyllgor ar fin ei gynnal i faterion yn ymwneud ag atal hunanladdiad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynglŷn â'r ymchwiliad y mae'r Pwyllgor ar fin ei gynnal i faterion yn ymwneud ag atal hunanladdiad.

 

9.3

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynglŷn â Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.

 

10.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

10.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(14.20 - 14.35))

11.

Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

11.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod eitemau 2, 3, 6, 7 ac 8 o'r cyfarfod.