Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 313KB) Gweld fel HTML
(163KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan Elin Jones. |
||
(09.30 - 10.30) |
Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 - sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a
Chwaraeon Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Irfon Rees, Dirprwy Gyfarwyddwr, Iechyd y Cyhoedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Ysgrifennydd Cabinet, y Gweinidog a'u
swyddogion. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 - Gwybodaeth ychwanegol gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1.a
Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Ymddiriedolaeth GIG
Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 23 Tachwedd I baratoi ar gyfer ei ymchwiliad i gynaliadwyedd y
gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ac i ystyried y dull ar gyfer yr
ymchwiliad i ofal syflaenol. Cofnodion: 4.1
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(10.45 - 11.05) |
Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 - trafod tystiolaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cofnodion: 5.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet, y
Gweinidog a'u swyddogion, a chytunodd ar set o faterion allweddol i'w cynnwys
yn ei adroddiad drafft. |
|
(11.05 - 11.35) |
Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2017-18 - trafod y llythyr drafft a gaiff ei anfon at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1
Trafododd y Pwyllgor y llythyr a gaiff
ei anfon at Ysgrifennydd Cabinet a'r Gweinidog mewn perthynas â'r gyllideb
ddrafft 2017-18 a chytunodd arno. |
|
(11.35 - 11.45) |
Trafod Blaenraglen Waith y Pwyllgor Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf
am ei flaenraglen waith yn y dyfodol, a chytunodd ar y camau a ganlyn: ·
ysgrifennu
at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn gofyn am ragor o
fanylion ynghylch sefydlu Addysg Iechyd Cymru a'r amserlen ar gyfer yr
ymgynghoriad; ·
gwahodd yr
Athro Robin Williams a/neu aelodau o'i dîm ymgynghorol, a wnaeth y gwaith cwmpasu ar gyfer y model newydd o
ddarparu addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol, i roi
tystiolaeth ar ein hymchwiliad i recriwtio staff meddygol. |