Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Amseriad disgwyliedig: Preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Caroline Jones AC.

(09.00 - 09.40)

2.

Cynllunio strategol a thrafod ymchwiliadau posibl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ac yn cytuno ar ei amcanion strategol lefel uchel ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar ei flaenoriaethau a gynhaliwyd dros yr haf.

 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor i roi blaenoriaeth i’r ymchwiliadau canlynol dros y 12-18 mis nesaf:

 

        Dementia;

        Gofal sylfaenol;

        Teimlo’n ynysig neu’n unig;

        Defnyddio meddyginiaeth gwrthseicotig;

        Iechyd y cyhoedd a chwaraeon.

 

2.4 Byddai’r Pwyllgor hefyd yn cysylltu â phawb a oedd wedi ymateb i’r ymgynghoriad ar ei flaenoriaethau, i roi gwybod iddynt am ei raglen waith.

 

2.5 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd arbenigwyr ym maes cynllunio’r gweithlu er mwyn helpu gyda’i ymchwiliad i gynaliadwyedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.

(09.40 - 9.45)

3.

Ymchwiliad i recriwtio meddygol – Paratoad ar gyfer ymweliad i’r Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r Pwyllgor yn ymweld ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd fel rhan o’i ymchwiliad i recriwtio staff meddygol.