Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 466KB) Gweld fel HTML (407KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AC.

 

(09.30 - 10.15)

2.

Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 - sesiwn dystiolaeth gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Tracy Myhill, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth

Richard Lee, Cyfarwyddwr Gweithrediadau'r Ymddiriedolaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

2.2 Cytunodd Tracy Myhill i roi data i'r Pwyllgor yn ymwneud â chynllun yr Ymddiriedolaeth i ymdrin â galwyr aml.

 

(10.25 - 11.25)

3.

Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 - sesiwn dystiolaeth gyda Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP) a'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS)

Dr Isolde Shore-Nye, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Dr Jane Fenton-May, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Suzanne Scott-Thomas, Cadeirydd Bwrdd Fferylliaeth RPS Cymru a

Chyfarwyddwr Clinigol a Phennaeth Rheoli Meddyginiaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Mair Davies, Cyfarwyddwr RPS ar gyfer Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol.

 

 

(11.25 - 12.25)

4.

Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 - sesiwn dystiolaeth gyda Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (RCPsych) a Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (RCPCH)

Yr Athro Tayyeb Tahir, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (RCPsych)

Dr Mair Parry, Coleg Brenhinol Pediatrig ac Iechyd Plant (RCPCH)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion a'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant.

4.2 Cytunodd yr Athro Tahir i roi data i'r Pwyllgor yn ymwneud â sut mae derbyniadau i'r ysbyty yn effeithio ar gleifion â dementia; a data yn amlinellu sut mae rhai salwch iechyd meddwl yn gwaethygu yn ystod cyfnod y gaeaf.

 

 

(13.00 - 14.00)

5.

Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 - sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol

Neil Ayling, Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Phrif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint

Claire Marchant, Cyfarwyddwr Arweiniol Gwasanaethau Newydd a Phrif Swyddog Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyngor Sir Fynwy

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol.

5.2 Cytunodd Mr Ayling i ddarparu'r canlynol i'r Pwyllgor:

·         data ynghylch y nifer sy'n manteisio ar y brechiad ffliw ymysg staff mewnol awdurdodau lleol a staff a gyflogir gan sefydliadau annibynnol sy'n gweithio yn y sector gofal cartref;

·         tystiolaeth yn dangos lle mae'r Gronfa Gofal Canolradd wedi bod yn effeithiol o ran helpu i reoli galw a phwysau eraill ar draws y gwasanaethau gofal cymdeithasol;

·         data yn ymwneud â nifer y gweithwyr a gyflogir yn y sector gofal cymdeithasol sydd o wledydd yr UE a gweldydd nad ydynt yn yr UE.

 

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Er mwyn ystyried:

·         tystiolaeth a roddwyd gan randdeiliaid yn ystod y cyfarfod ar yr ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17

·         Bil Cymru Llywodraeth y DU

·         deiseb P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

·         deiseb P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

 

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(14.00 - 14.15)

7.

Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 - trafod tystiolaeth a roddwyd yn ystod y cyfarfod heddiw

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod sesiynau'r dydd ar yr ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17.

 

7.1

Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17: Ymatebion i’r Ymgynghoriad

Dogfennau ategol:

(14.15 - 14.25)

8.

Ystyried Flaenraglen Gwaith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cafodd y Pwyllgor drafodaeth bellach ynghylch y flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref.

8.2 Trafododd y Pwyllgor y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad byr i recriwtio meddygol a chytunodd arno. Bydd rhagor o fanylion a gwybodaeth am ymgynghoriad cyhoeddus yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Pwyllgor yn fuan.

 

(14.25 - 14.50)

9.

Trafod Bil Cymru Llywodraeth y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor ei ymateb i Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fil Cymru Llywodraeth y DU a chytunodd ar yr ymateb hwnnw. Bydd yr ymateb yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Pwyllgor yn fuan.

 

(14.50 - 14.55)

10.

Trafod Deiseb P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau a gofynnodd am rywfaint o wybodaeth gefndirol ychwanegol gan y Gwasanaeth Ymchwil cyn ystyried y mater ymhellach mewn cyfarfod diweddarach.

 

(14.55 - 15.00)

11.

Trafod Deiseb P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau a gofynnodd am rywfaint o wybodaeth gefndirol ychwanegol gan y Gwasanaeth Ymchwil cyn ystyried y mater ymhellach mewn cyfarfod diweddarach.