Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 466KB) Gweld fel HTML (267KB)

 

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Dawn Bowden AC; dirprwyodd Huw Irranca-Davies AC ar ei rhan.

 

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 3 a 4

Er mwyn ystyried:

·         Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Plismona a Throseddu

·         Bil Cymru Llywodraeth y DU

 

Cofnodion:

2.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(09.15 - 09.30)

3.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Plismona a Throseddu: ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a'r llythyr oddi wrth Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. 3.2 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft, a fydd yn cael ei osod cyn y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno adrodd ar 22 Medi 2016.

 

(09.30 - 10.00)

4.

Craffu ar Fil Cymru Llywodraeth y DU

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor Fil Cymru Llywodraeth y DU a'i oblygiadau ar gyfer cylch gwaith polisi'r Pwyllgor.

 

(10.00 - 12.00)

5.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol - trafod blaenoriaethau

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru

Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Ysgrifennydd Cabinet, y Gweinidog a'u swyddogion

 

6.

Papurau i’w nodi

6.1

Llythyr gan y Llywydd at Gadeiryddion Pwyllgor ynghylch datganiadau Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor lythyr y Llywydd ynghylch datganiadau Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn.

 

6.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch goblygiadau'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.

 

6.3

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Bil Cymru Llywodraeth y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

 

6.4

Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Dogfennau ategol:

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Er mwyn ystyried:

·         tystiolaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a'r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan eitem 5

·         y flaenraglen waith

·         cynllunio strategol a thrafod ymchwiliadau posibl

 

Cofnodion:

7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(12.00 - 12.15)

8.

Trafod tystiolaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a'r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet, y Gweinidog a'u swyddogion

8.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet a'r Gweinidog gyda chwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn.

 

(12.15 - 12.45)

9.

Trafod y flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref a chytunodd ar ystyried cynlluniau ar gyfer gwaith yn y dyfodol yn y sesiwn gynllunio strategol a chwmpasu ymholiadau tymor hwy yn ei gyfarfod ar 21 Medi 2016.